Cyhoeddi Manylion Gŵyl Rithiol FOCUS Wales

A hwythau wedi newid dyddiad gwreiddiol yr ŵyl i’r hydref o ganlyniad i argyfwng COVID-19, cyhoeddodd Gŵyl FOCUS Wales yn Wrecsam yn ddiweddar na fyddai modd cynnal yr ŵyl o gwbl yn 2020.

Ond, wythnos diwethaf fe gyhoeddodd y trefnwyr eu bod yn bwriadu cynnal gŵyl rithiol yn lle hynny dan yr enw ‘allan o FOCUS’ ym mis Medi.

Wrth gyhoeddi’r newyddion maent hefyd wedi rhoi galwad agored i lunwyr cerddoriaeth Cymru gymryd rhan mewn digwyddiad arddangos a chynhadledd ddigidol.

Yn y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau ar-lein (gyda mwy i’w cyhoeddi yn y misoedd nesaf), bydd y digwyddiad arddangos rhithwir yn cael ei gynnal ym mis Medi. Bydd yn cynnwys sgyrsiau rhwng panelwyr a phrif anerchiadau, gyda gweithwyr proffesiynol a gwesteion arbennig. Ochr yn ochr â hyn, fe fydd y gyfres yn cynnig y cyfle i artistiaid o Gymru arddangos eu cerddoriaeth i, a rhyngweithio gyda, chynrychiolwyr y diwydiant cerddoriaeth byd-eang, gan hwyluso mynediad iddyn nhw at gefnogaeth i helpu gyda’u gyrfaoedd yng nghanol y pandemig COVID-19.

“Y bwriad gyda’n digwyddiadau cynhadledd ddigidol newydd ydy datblygu’n ganolbwynt cyngor a chymorth gyda datblygiad holistaidd y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru” meddai llefarydd ar ran FOCUS Wales.

“Yn y tymor byr: canolfan rithwir gyda sesiynau cynghori ar-lein i’r diwydiant, ynghyd ag adnoddau a gynigir trwy gynhadledd rithwir. Yn yr hirdymor: datblygu’n ganolfan adnoddau gydol y flwyddyn, ar gael ar-lein ac wyneb yn wyneb, i’r sector yng Nghymru – trwy gyfrwng sesiynau panel ar-lein, sesiynau cynghori dwys un-i-un ac adnoddau ar-lein, yn ogystal â sesiynau diwydiant personol wedi’u trefnu, a’u sefydlu mewn lleoliadau amrywiol ledled Cymru trwy gydol y flwyddyn.”

Tra bydd mynediad i’r gynhadledd ddigidol ehangach yn rhad ac am ddim, mae nifer cyfyngedig o lefydd ar y rhaglen datblygu artistiaid cyntaf un ar gael, ac mae artistiaid o Gymru’n cael eu gwahodd i wneud cais i gymryd rhan trwy wefan FOCUS Wales.