Cyhoeddi manylion llawn cyfres gigs Stafell Fyw

A hithau wedi bod yn flwyddyn hesb o ran gigs ‘byw’ ers i’r clo mawr ddechrau yn y gwanwyn, mae S4C wedi cyhoeddi manylion cyfres o gigs y bydd modd i bobl eu ffrydio’n fyw i’n cartrefi.

Darlledwyd y gig ‘Stafell Fyw’ cyntaf ar 14 Hydref gyda pherfformiadau gan Candelas ac I Fight Lions o Neuadd Ogwen, Bethesda.

Yn dilyn llwyddiant y gig hwnnw, bydd taith fer o gigs Stafell Fyw yn dechrau ym mis Rhagfyr, ac yn gorffen ar ddechrau’r flwyddyn newydd gyda rhai o enwau amlycaf y sin gerddoriaeth Gymraeg yn perfformio.

Amserlen cyfres gigs

Yn wahanol i lawer o’r gigs rhithiol rydym wedi gweld dros y misoedd diwethaf, mae Stafell Fyw yn ceisio ail-greu rhywfaint o gyffro gigs byw trwy ddarlledu’r perfformiadau’n hollol fyw i’ch sgrin trwy blatfform Lŵp, a hynny o leoliadau penodol.

Bydd y gig cyntaf o’r gyfres ar 2 Rhagfyr, gyda’r artistiaid gwerin, Calan a Gwilym Bowen Rhys, yn perfformio o’r Egin yng Nghaerfyrddin.

Bydd yr ail gig bythefnos yn ddiweddarach ac yn cynnwys Adwaith a Pys Melyn yn perfformio yn un o leoliadau gigs amlycaf Cymru, Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd.

Y Galeri yng Nghaernarfon fydd lleoliad yr olaf o’r gigs ar 6 Ionawr pan fydd y grwpiau Gwilym ac Alffa yn camu i’r llwyfan.

“pawb yn edrych ar y gig efo’i gilydd”

Ffion Emyr oedd yn cyflwyno’r gig Stafell Fyw cyntaf ym mis Hydref, a hi fydd wrth y llyw eto ar gyfer y gyfres yma o dri.

“Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn galed ac anodd iawn i gymaint o bobol, yn enwedig pobol sydd ynghlwm â chyngherddau a gigs byw” meddai Ffion Emyr.

“Cerddorion, trefnwyr gigs, technegwyr, riggers – pawb! Felly mae’i mor braf medru cefnogi a rhoi llwyfan, platfform a gwaith i bawb sydd ynghlwm â’r daith yma.”

Bydd y gigs Stafell Fyw yn digwydd yn hollol fyw ar sianel YouTube a thudalen Facebook Lŵp. Ni fydd modd gwylio’r setiau eto ar alw, ond bydd modd prynu lawr lwythiad o’r caneuon ar wefan Stafell Fyw ar ôl y digwyddiad.

“Un o’r pethau pwysica’ i fi ydy trio cael bwrlwm a chynnwrf cyn ac ar ôl i’r bandiau berfformio” ychwanegodd Ffion Emyr.

“A hefyd i gael pawb adra i adael sylwadau a tweetio fel bod ‘na deimlad fod pawb yn edrych ar y gig efo’i gilydd, ond o’i Stafell Fyw.”

“Mae pawb wedi colli gymaint o brofiadau, gigs a gwyliau cerddorol, ac yn haeddu cael blas o gigs byw eleni.”

Bydd cyfle i gymryd rhan yn yr hwyl drwy holi cwestiynau i’r artistiaid neu roi barn ar y setiau yn ystod y digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol a thrwy gofrestru ar wefan y Stafell Fyw.