Cyhoeddi manylion taith Eve Goodman

Law yn llaw a lansio prosiect cyffrous newydd gyda Sera, mae Eve Goodman hefyd wedi cyhoeddi manylion taith fydd yn dechrau ddiwedd mis Ionawr.

Bydd y daith yn ymweld â nifer o leoliad yng Nghymru a Lloegr, gyda Sera’n gwmni iddi ar rai o’r dyddiadau a chantores arall, Anna Ling, hefyd yn perfformio mewn gigs eraill.

Yn ôl Eve, dyma’r tro cyntaf iddi drefnu taith o’r fath ac mae’n gyffrous iawn ynglŷn â’r peth.

Dywed bod rhai o’r gigs yng nghartrefi pobl, ac eraill mewn lleoliadau bach cysurus. Bwriad y daith ganol gaeaf ydy dod ag ychydig o wres, chwerthin a cherddoriaeth i fisoedd Ionawr a Chwefror.

Mae gwybodaeth lawn am y daith ar wefan Eve Goodman.

Dyma fanylion gigs y daith:

24 Ionawr – Tŷ Lizzie, Swindon (gydag Anna Ling)

25 Ionawr – Tŷ Aoife, Bryste (gydag Anna Ling)

28 Ionawr – Hatch Court, Devon

31 Ionawr – Canolfan St Sidwell, Exeter

1 Chwefror – Sprout Health Foods, Newquey, Cernyw

13 Chwefror – Caerfyrddin (gyda Sera) *drwy wahoddiad yn unig

14 Chwefror – Y Bontfaen (gyda Sera) *drwy wahoddiad yn unig

15 Chwefror – Tŷ Andrew a Dawn, Pontypridd

Dyma Eve a Sera yn perfformio eu sengl ar raglen Heno wythnos diwethaf: