Mae gŵyl FOCUS Wales wedi cyhoeddi manylion rhaglen digwyddiad arddangos a chynhadledd ddigidol newydd sbon y byddan nhw’n cynnal eleni dan yr enw ‘Out of FOCUS’.
Cyhoeddwyd yn mis Gorffennaf y byddai’r digwyddiad digidol yn cael ei gynnal rhwng 21 a 26 Medi eleni, a bellach mae rhagor o fanylion wedi’u rhyddhau.
Yn y gyntaf o gyfres o ddigwyddiadau ar-lein (gyda mwy i’w cyhoeddi yn y misoedd sydd i ddod), bydd y digwyddiad arddangos rhithiol yn cynnwys sgyrsiau panel, a phrif sesiynau, gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant a gwesteion gwadd.
Ochr yn-ochr â hyn, fe fydd y gyfres yn cynnig y cyfle i artistiaid o Gymru arddangos eu cerddoriaeth i, a rhyngweithio gyda, chynrychiolwyr y diwydiant cerddoriaeth yn fyd-eang, gan gynnig hefyd mynediad at gefnogaeth i’w helpu gyda’u gyrfaoedd ynghanol y pandemig COVID-19.
Siaradwyr difyr
Yr enw mwyaf i’w gyhoeddi ar y rhaglen ydy Dave Steward, sef cyd-sefydlydd Eurythmics, y canwr, cyfansoddwr, cerddor, awdur, ffotograffydd arobryn. Ymysg ei anrhydeddau lawer, Stewart fu’n cyd-gyfansoddi a chynhyrchu pob albwm Eurythmics, sef y ddeuawd fyd-enwog gydag Annie Lennox.
Mae hefyd wedi cynhyrchu albyms a chyd-gyfansoddi caneuon gyda Mick Jagger, Tom Petty, Stevie Nicks, Bob Dylan a Gwen Stefani, ymysg sawl un arall. Yn ddiweddar, mae Dave wedi dechrau gweithio gyda’r artist addawol o Gymru, Otto, a fydd yn sgwrsio gyda Dave fel rhan o raglen Out of FOCUS.
Ymysg y siaradwyr eraill sydd wedi eu cyhoeddi mae Henca Maduro (New Skool Rules), Rachel Almeida (Crack Magazine), Aly Gillani (Bandcamp), Alex Petropoulos (Songlines), Achal Dhillon (Killing Moon), Anika Mottershaw (Bella Union), Bev Burton (Black Deer Festival), Rob McGee (Empire Agency) a Beverly Whitrick (Music Venues Trust).
Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys sgyrsiau gan gynrychiolwyr o Gyngor Celfyddydau Cymru, Help Musicians, Undeb y Cerddorion, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Y Cyngor Prydeinig, PRSF, a Dyma Gymru.
Mae modd gweld rhestr o’r holl enwau i’w cyhoeddi hyd yma ar wefan FOCUS Wales.
Canolbwynt
“Y bwriad gyda’r digwyddiadau cynhadledd digidol newydd hwn ydy dod yn ganolbwynt ar gyfer cyngor a chymorth datblygiad holistaidd y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru” meddai llefarydd ar ran FOCUS Wales.
“Yn y byrdymor: canolbwynt rhithiol gyda sesiynau cynghori i’r diwydiant ac adnoddau ar-lein, a gynigir trwy gyfrwng cynhadledd rithiol.
“Yn yr hirdymor: i ddatblygu’r canolbwynt i fod yn ganolfan adnoddau trwy’r flwyddyn a fydd ar gael ar-lein ac wyneb yn wyneb i’r sector yng Nghymru – trwy sesiynau panel ar-lein, sesiynau cynghori dwys un i un ac adnoddau ar-lein, yn ogystal â sesiynau’r diwydiant wyneb yn wyneb, wedi’u trefnu mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru trwy gydol y flwyddyn.”