Cyhoeddi Rhestr Fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig

Mae’r rhestr fer wedi’i chyhoeddi ar gyfer Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2020 a’r newyddion gwych ydy for nifer o artistiaid sy’n canu’n y Gymraeg ymysg yr enwau.

Wrth i’r wobr nodi deng mlynedd ers ei sefydlu eleni, mae’r rhestr fer wedi’i chynyddu i 15 o recordiau hir, gan arddangos y sin gerddoriaeth Gymreig syn tyfu yn ôl y trefnwyr.

Mae nifer o recordiau Cymraeg a dwy-ieithog wedi cyrraedd y rhestr fer y tro hwn. Ymysg yr enwau sydd wedi eu cyhoeddi mae Ani Glass a’i halbwm cyntaf, Mirores; Cotton Wolf a’r albwm Ofni; Georgia Ruth a’i record hir Mai; Gruff Rhys a’i albwm diweddaraf Pang!; Los Blancos a’u halbwm cyntaf Sbwriel Gwyn; ac Yr Ods gyda’r record gysyniadol Iaith y Nefoedd.

Albwm Cymraeg enillodd y wobr llynedd wrth gwrs, sef Melyn – albwm cyntaf y triawd o Gaerfyrddin, Adwaith. Ymysg yr enillwyr blaenorol mae’r artistiaid Cymraeg Gwenno, gyda’r albwm cysyniadol Y Dydd Olaf (2015), a The Gentle Good  gydag Adfeilion / Ruins (2017). Mae’r enillwyr blaenorol hefyd yn cynnwys Gruff Rhys, Boy Azooga, Georgia Ruth a Meilyr Jones.

Sylw rhyngwladol

Sefydlwyd Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ar y cyd yn 2011 gan gyflwynydd y BBC Huw Stephens a’r ymgynghorydd cerddoriaeth John Rostron, gyda’r albwm buddugol yn cael ei ddewis gan banel o feirniaid arbenigol yn y diwydiant cerddoriaeth, sy’n cael ei adnewyddu’n flynyddol.

Mae’r wobr wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd gan ddenu sylw rhyngwladol i’r recordiau ar y rhestr fer, yn ogystal â’r enillwyr.

“Mae’n 10 mlynedd ers lansio’r wobr gerddoriaeth Gymreig” meddai Huw Stephens.

“Rydym wedi dathlu cymaint o albymau gwych ac wedi gweld 9 enillydd teilwng iawn hyd yma. Mae’r artistiaid o Gymru sy’n parhau i greu cerddoriaeth wych yn haeddu cydnabyddiaeth, ac mae’r Wobr Cerddoriaeth Gymreig yn falch o allu gwneud hynny bob blwyddyn, gan roi sylw at yr albymau gwych hyn.

“Mae’n ymwneud yn fawr â darganfod hefyd, rydym yn gobeithio y bydd cefnogwyr cerddoriaeth yn darganfod cerddoriaeth newydd o Gymru y maent yn eu caru.”

Achubiaeth

Gyda’r pandemig yn rhoi stop i gigs ac yn effeithio’n fawr ar artistiaid, yn ôl y trefnwyr mae’n teimlo’n bwysicach nag erioed i’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig gefnogi gwerthiant albymau a ffrydio eleni.

“Mae’r sector cerddoriaeth fyw wedi’i ddinistrio eleni, ac i artistiaid mae’n golygu bod eu cyfle i berfformio’n fyw, ennill incwm a thyfu eu cefnogwyr wedi’i rwystro” meddai cyd-sylfaenydd y wobr, John Rostron.

“Ond nid yw Covid-19 wedi cael gwared â’n hawydd i wrando ar a darganfod cerddoriaeth newydd. Mae ffrydio a phrynu recordiau newydd wedi bod yn achubiaeth i berfformwyr gyrraedd cynulleidfaoedd, ac i bob un ohonom aros mewn iechyd da gyda dos dyddiol o ganeuon newydd gwych.”

Bydd y 10fed enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig eleni yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau 19 Tachwedd 2020.

Y panel beirniaid ar gyfer 2020 ydy Polly James (Radio X), Gemma Cairney (BBC Radio/awdur), Mark Sutherland (Music Week), Daniel Minty (Minty’s Gig Guide), Ffion Wyn (Ladies of Rage), Angharad Jenkins (cerddor/cyfansoddwr), Emma Zilmann (Bluedot/Kendal Calling), Sian Eleri Evans (BBC Radio Cymru/Folded Wing).

Dyma restr fer lawn Gwobr Cerddoriaeth Gymreig 2020:

  • Mirores gan Ani Glass (Recordiau Neb)
  • Chaos Wonderland gan Colorama (Banana & Louie Records)
  • Ofni gan Cotton Wolf (Bubblewrap)
  • Care City gan Deyah (High Mileage, Low Life)
  • Steel Zakuski gan Don Leisure (Group Bracil)
  • Mai gan Georgia Ruth (Bubblewrap)
  • Pang! gan Gruff Rhys (Rough Trade)
  • Eyelet gan Islet (Fire Records)
  • Bring Me The Head of Jerry Garcia gan Keys (Recordiau Libertino Records)
  • A Vision In The Dark by Kidsmoke (Recordiau Libertino Records)
  • Sbwriel Gwyn gan Los Blancos (Recordiau Libertino Records)
  • Valley Boy gan Luke RV (Valley Boy Records)
  • Zone Rouge by Right Hand Left Hand (Bubblewrap Records)
  • Everything Solved At Once gan Silent Forum (Recordiau Libertino Records)
  • Iaith Y Nefoedd gan Yr Ods (Lwcus T)