Wel, fe ddaeth yr amser i ddechrau codi gêr ar gyfer Gwobrau’r Selar unwaith eto, ac rydan ni’n falch iawn i allu cyhoeddi’r ddwy restr fer gyntaf ar gyfer ein gwobrau cerddoriaeth blynyddol.
Caeodd y bleidlais gyhoeddus ar gyfer Gwobrau’r Selar am hanner nos ar Nos Calan, a dros yr wythnosau nesa’ byddwn yn datgelu’r tri enw ddaeth i frig y bleidlais ym mhob categori, a selio eu lle ar y rhestrau byr.
Bydd y cyfan yn arwain at ddatgelu enillwyr y 12 categori eleni ar benwythnos Gwobrau’r Selar yn Aberystwyth, sef 14-15 Chwefror – tocynnau penwythnos ar werth nawr!
Y rhestrau byr cyntaf i’w datgelu ydy y rheiny ar gyfer categorïau’r ‘Band Gorau’ sy’n cael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth, sydd hefyd yn brif noddwyr digwyddiad y Gwobrau, a hefyd y Digwyddiad Byw Gorau, a noddir gan Tinopolis.
Heb oedi ymhellach, dyma’r rhestrau byr!
Rhestr fer ‘Band Gorau’:
- Lewys
- Gwilym
- Fleur de Lys
Rhestr Fer ‘Digwyddiad Byw Gorau’:
- Tafwyl
- Gigs Cymdeithas yr Iaith Gymraeg – Steddfod Llanrwst
- Sesh Maes Barcar
Llongyfarchiadau mawr i’r tri sydd wedi cyrraedd y rhestrau byr, ond llongyfarchiadau mawr hefyd i bawb oedd ar y rhestrau hir ac a gafodd eu henwebu yn y lle cyntaf – gwaith da.
Bydd rhestrau byr y 10 categori arall, ynghyd ag enillydd y wobr Cyfraniad Arbennig eleni, yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.
Cynhelir digwyddiad y Gwobrau yn Undeb y Myfyrwyr Aberystwyth dros ddwy noson eto eleni.
Mae modd archebu tocynnau penwythnos ar hyn o bryd am bris rhesymol o £25, a bydd lein-yp llawn y gigs yn cael ei ddatgelu dros yr wythnos nesaf.