Cyhoeddi rhestrau Cyflwynydd a Record Fer

Wrth i benwythnos mawr Gwobrau’r Selar agosáu, rydym yn falch iawn i gyhoeddi dwy restr fer arall eleni.

Y ddwy restr fer ddiweddaraf i’w datgelu ydy rheiny ar gyfer categorïau’r ‘Cyflwynydd Gorau’ sy’n cael ei noddi gan Heno, S4C a hefyd y Record Fer Orau, a noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Dyma’r rhestrau fer rydach chi fel pleidleiswyr wedi dewis….

Rhestr fer ‘Cyflwynydd Gorau’:

Huw Stephens

Garmon ab Ion

Tudur Owen

 

Rhestr Fer ‘Record Fer Orau’:

Diwedd y Byd – I Fight Lions

Lle yn y Byd Mae Hyn? – Papur Wal

Tafla’r Dis – Mei Gwynedd

 

Mae 6 categori ar ôl i’w cyhoeddi bellach, a bydd y rheiny’n ymddangos dros yr wythnosau nesaf gan arwain at benwythnos cyflwyno’r gwobrau. Caeodd y bleidlais gyhoeddus ar gyfer Gwobrau’r Selar am hanner nos ar Nos Calan.

Mae’r cyfan yn arwain at ddatgelu enillwyr y 12 categori eleni ar benwythnos Gwobrau’r Selar yn Aberystwyth, sef 14-15 Chwefror.

Peidiwch a cholli’r cyfle i fod yn rhan o’r dathlu – prynwch eich tocynnau ar gyfer Gwobrau’r Selar nawr!