Mae rhifyn newydd o gylchgrawn cerddoriaeth Y Selar wedi’i gyhoeddi ac fe fydd ar gael o’r mannau arferol, ac yn ddigidol, dros yr wythnosau nesaf.
Fel arfer, mae rhifyn o’r cylchgrawn yn cael ei gyhoeddi erbyn wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst, ond bu’n rhaid gohirio cyhoeddi’r rhifyn hwnnw eleni o ganlyniad i’r argyfwng Covid-19.
Gyda’r Eisteddfod, ynghyd â holl wyliau cerddorol eraill yr haf, wedi’i ohirio, penderfynwyd oedi cyhoeddi’r rhifyn diweddaraf nes bod modd ei ddosbarthu’n ehangach yn yr ysgolion, prifysgolion a lleoliadau eraill.
Er bod y digwyddiadau cerddorol ar stop, mae nifer o artistiaid wedi parhau’n brysur ac mae digon o gynnyrch newydd wedi’i gyhoeddi dros y misoedd diwethaf i sicrhau bod llwyth o gynnwys difyr yn y rhifyn newydd.
Prif gyfweliadau’r rhifyn newydd ydy Mared, a ryddhaodd ei halbwm cyntaf dros yr haf, a Rhys Gwynfor sy’n brysur yn gweithio ar ei albwm cyntaf yntau. Mae sylw hefyd i’r artist electronig Carw, y grŵp ifanc Lewys, a’r gantores Casi.
Mae’r rhifyn hefyd yn cynnwys colofnau amserol a chrafog gan Gai Toms, sy’n cwestiynu safon beirniadaeth o gerddoriaeth Gymraeg gyfoes, a hefyd Lloyd Steele sy’n trafod amrywiaeth yn y sin gerddoriaeth Gymraeg.
Mae’r rhifyn hefyd yn cynnwys adolygiadau o’r prif gynnyrch sydd wedi’i ryddhau dros y misoedd diwethaf, ynghyd â blas o gyfrol newydd y cerddor ac un o sylfaenwyr label Recordiau Sain, Huw Jones.