Un o’r digwyddiadau niferus sydd wedi gorfod ail-drefnu dyddiad o ganlyniad i’r argyfwng Coronavirus ydy gŵyl FOCUS Wales yn Wrecsam, gyda’r ŵyl bellach i’w chynnal rhwng 7 a 10 Hydref 2020.
Bellach mae’r ŵyl hefyd wedi cyhoeddi ton gyntaf artistiaid diwygiedig y digwyddiad, ac wrth i 2020 nodi 10 mlwyddiant sefydlu’r ŵyl, mae’n addo bod yn glamp o benwythnos.
Mae’r ŵyl ‘showcês’ wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd, ac enillodd wobr ‘Best Festival for Emerging Talent’ yn yr UK Festival Awards llynedd, gan hefyd dderbyn enwebiad am Wobr Gwyliau Ewropeaidd (European Festival Award) yn ddiweddar.
Roedd yr ŵyl i fod i ddigwydd ym mis Mai yn ôl yr arfer, ond oherwydd yr argyfwng COVID-19 penderfynodd y trefnwyr i ohirio’r digwyddiad nes mis Hydref.
Bydd yr holl fandiau braich sydd wedi eu prynu eisoes yn gymwys i’w defnyddio dros ddyddiadau newydd yr ŵyl a thocynnau ar gyfer gigs unigol yn iawn i’w defnyddio lle bu modd ail-drefnu’r sioeau dan sylw.
Y newyddion da ydy fod 98% o lein-yp gwreiddiol yr ŵyl wedi’i gadarnhau ar gyfer y dyddiadau newydd gyda dros 250 o artistiaid o bob rhan o Gymru a thu hwnt yn perfformio. Dyma restr o’r enwau sydd wedi ei hail-gadarnhau hyd yma:
Richard Hawley, The Twilight Sad, Gruff Rhys, The Joy Formidable, Tim Burgess, Stealing Sheep, Flamingods, JOHN, Lucy Spraggan, Georgia Ruth, Catrin Finch, Gallops, HENGE, Adwaith, The Breath, Nik Colk Void (Factory Floor), God Damn, The Trials of Cato, Ynys, The Membranes, Karima Francis, Graeme Park, Buzzard Buzzard Buzzard, Seazoo, Art School Girlfriend, Band Pres Llareggub, Kidsmoke, Bronnie, Chroma, HMS Morris, Panic Shack, Clwb Fuzz, Lewys, Alffa, Yr Ods, Jack Found, Casi, MOJA, Das Koolies’ Immersive Audio-Visual Installation, Sŵnami, Worldcub, Melin Melyn, Hilang Child, Cotton Wolf, Kim Hon, Thumper, Accü, Cara Hammond, Neighbours Burning Neighbours, Golden Fable, Yr Eira, Delta Radio, Rosehip Teahouse, Yammerer + MWY