Cymryd y Mics o Dderyn Yws

Yn ystod y cyfnod clo mae ail-gymysgu traciau wedi dod yn fwyfwy amlwg. Tegwen Bruce-Deans aeth ati i edrych ar yr esiamplau o hynny yn y Gymraeg…

Diau fu shifft dros y blynyddoedd diwethaf yn y sîn cerddorol Cymraeg, wrth i genhedlaeth newydd fynnu camu tu hwnt i sffêr y band byw confensiynol.

Dim ond ar ddechrau’r mis, fe ddyfarnwyd albwm electronig, seicadelig yr artist unigol Ani Glass fel ‘Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2020 yr Eisteddfod Genedlaethol – a hynny uwchlaw nifer o enwau mawr mwy poppy a chonfensiynol megis Yr Ods a MR.

Mae’r cyfnod clo wedi gorfodi’r mwyafrif i fabwysiadu’r byd electronig fel y ‘norm’ newydd am y tro, boed hynny drwy egwyliau coffi rhithwir, cwisiau meddw Zoom ar nos Sadwrn, neu hyd yn oed gigs ar-lein fel y cafwyd gan Lewys yn ddiweddar. Yn anochel, felly, gellir disgwyl gweld addasiad yn y ffordd y mae artistiaid cerddorol yn creu eu cerddoriaeth hefyd, wrth iddi barhau i fod yn anodd casglu band ynghyd mewn stiwdio i recordio.

Dyma’n union a wnaeth Yws Gwynedd, wedi cwpl o flynyddoedd o dawelwch fel artist cerddorol: trafod syniadau, recordio, golygu a chyhoeddi trac yn gyfan gwbl dros y gwifrau digidol. Does dim syndod bod ymateb cadarnhaol wedi bod i ryddhau ‘Deryn Du’ chwaith; nid oes angen edrych ymhellach na siartiau cerddorol y DU i weld bod y genhedlaeth ifanc o wrandawyr yn ffafrio’n aml gerddoriaeth dawns electronig dros fandiau confensiynol.

Cynnwys pobl yn yr hwyl

Ond yn ogystal â chynyddu cynnyrch gwreiddiol electronig, mae’r cyfnod hwn wedi hwyluso twf newydd mewn poblogrwydd yr arddull o ailgymysgu – rhywbeth roedd Yws yn awyddus i annog yn y byd cerddorol Cymraeg hefyd wrth ryddhau ‘Deryn Du’.

“[Roedden ni’n] trio meddwl am ffyrdd i gynnwys pobl yn yr hwyl” meddai Yws.

“Un o’r syniadau gafo ni oedd neud TikTok challenge fel rhyw fath o ddawns i’r gân… ond ma tri chwarter y band dros eu trideg erbyn hyn felly gafodd y syniad yna ei rhoi’n y bin! Roedd hi’n gyfnod mor od, roedd hi’n anodd gwbod be i neud a gafodd Rich [Roberts, cynhyrchydd a drymiwr y band] y syniad o rhyddhau’r stems yn gyhoeddus fel bod pobl yn cael go bach ar wneud ‘wbath creadigol.”

Yn wahanol i fideos feiral cyfoes TikTok, nid yw ailgymysgu’n beth newydd i’r Gymraeg – er, gellir dadlau bod yna diffyg o gymharu ag ieithoedd eraill. Mae’r glasur o ailgymysgiad gan Dyl Mei o dan enw Y Lladron, ‘Rhedeg i Beyonce / Crazy in Louvre’, er enghraifft, dal i dreiddio i’r presennol weithiau ar Radio Cymru, gan brofi poblogrwydd yr arddull hyd heddiw.

 

Braf ydyw, felly, gweld artistiaid newydd yn aildanio’r poblogrwydd hwn yn ystod y cyfnod clo – a hynny mewn amrywiaeth o ffyrdd sy’n arddangos hyblygrwydd deniadol yr arddull.

Yn ei Sesiwn Tŷ Radio Cymru, mae Ifan Dafydd yn manteisio ar yr archif gan ail-ddehongli trac Mary Hopkin, Aderyn Llwyd, gyda llais hypnotig Thallo. Ond i’r gwrthwyneb, dyma’r Eisteddfod yn gofyn i Endaf gydweithio gyda rhai o artistiaid mwyaf poblogaidd y presennol, fel Adwaith ac Alffa, i ailgymysgu eu traciau nhw fel rhan o Gig y Pafiliwn Amgen.

“Roeddwn i wedi darogan – eithaf amlwg a deud y gwir- fod y cyfnod dan glo yn mynd i fod yn gyfnod da i gerddoriaeth electroneg Cymraeg,” meddai Yws.

“Mae ’na enghreifftiau diweddar o ailgymysgiadau’n neud yn well na’r caneuon gwreiddiol – pwy a ŵyr, ella neith hynny ddigwydd efo Deryn Du!”

Hwb i amaturiaid

Ac nid yw creadigrwydd ailgymysgu yn gyfyngedig i artistiaid sefydledig chwaith, fel mae’r cyfnod clo wedi profi wrth i bobl gymryd mantais o’r saib oddi wrth normalrwydd i gael tro ar rywbeth newydd. Denodd stems Deryn Du sylw digynsail o bob cyfeiriad. Wrth gwrs, bu ambell i enw cyfarwydd iawn yn rhoi tro ar ailgymysgu, megis cynhyrchydd y gân ei hun, Rich Roberts. Ond roedd y ffaith bod y stems ar gael yn gyhoeddus yn sicr wedi rhoi hwb i amaturiaid cael tro ar arbrofi gydag ailgymysgu hefyd.

Yn ddiddorol, fe wnaeth aelod arall o deulu label recordio Côsh, Alun Gaffey, groesawu pobl i cysylltu’n uniongyrchol ag ef i dderbyn stems o’i albwm newydd, Llyfrau Hanes. Ond o edrych ar y gwahaniaeth o ran ymateb yr ailgymysgu, gellir tybio fod cyhoeddusrwydd stems ‘Deryn Du’ wedi annog mwy o bobl i arbrofi heb deimlo’r angen i gyflwyno ailgymysgiad cyflawn yn ôl i’r artist gwreiddiol.

Mae Yws hefyd yn amlwg wedi’i lorio gyda’r ymateb cadarnhaol i’w alw am ailgymysgiadau.

“Y bwriad yn wreiddiol oedd i rhyddhau’r 5 gorau (os fuasa ni’n cael 5) fel EP, ond yn fuan iawn wnaethon ni hitio 10 ac roedd hi’n annheg ac yn amhosib pigo 5 o’r goreuon. Yn hytrach, wedi sgwrs efo rhai o’r artistiaid, wnaethon ni gytuno mai’r peth gorau i wneud byddai rhoi arian i elusen fel diolch iddyn nhw am gymryd rhan, felly cafodd £1,000 ei roddi i Black Lives Matter UK.

“Mae ’na o leiaf 20 yn erbyn rŵan, ond fedri di weld o’r rhestr chwarae ar SoundCloud pa rhai ydi fy ffefrynnau – er fuasai’r 10 uchaf i gyd yn gallu newid lle’n dibynnu ar ba chwant cerddorol sydd arna i ar y diwrnod hwnnw.”

Blas cerddorol amrywiol

Yn wir, gellir gweld yn yr amrywiaeth o ddehongliadau o’r un trac sut mae ailgymysgiadau yn gallu bod o fudd i bob un sydd ynghlwm â’r gerddoriaeth.

I Yws, fel yr artist gwreiddiol, mae clywed ymateb ei wrandawyr ar ffurf ailgymysgiad yn fewnwelediad gwerthfawr – yn enwedig mewn cyfnod lle nad oes modd gweld ymateb corfforol y dorf o’r llwyfan. O’r loops mae nifer o’r ail-gymysgwyr wedi’u gwneud o linell bas y gytgan, sydd ar ei fwyaf amlwg yn nhrac Dienw (TH remix), gellir sylwi ar hoff fachau’r gwrandawyr yn y trac gwreiddiol.

Ond wrth gymharu dehongliad SuperJOfficial, sy’n rhoi canol y llwyfan i’r allweddau jazz, a dehongliad sŵn clwb, basaidd ailgymysgiadau FRMAND a Lewys, mae’n amlwg bod blas cerddorol yr ail-gymysgwyr yn amrywio’n fawr.

“Ma’n ddifyr i mi fod pobl yn clywed a mwynhau’r un caneuon yn wahanol yn dibynnu be di’r arddull neu’r curiad,” meddai Yws. “Diddorol hefyd fod y rhan fwyaf wedi cyflymu’r gân – ella fod y gwreiddiol yn rhy araf, dwnim.”

Fel gwrandäwr hefyd, mae ailgymysgiadau yn gallu cyfoethogi’r broses o wrando ar gerddoriaeth.

Mae pob un yn gwrando ar gerddoriaeth yn wahanol, ac yn bachu’r gwahanol adrannau o’r gân maent yn eu hoffi yn seiliedig ar ddiddordeb, a chlust, bersonol. Efallai na fydd eraill yn talu’r un sylw i’r adrannau rheini. Ond wrth wneud nodwedd o adran o fewn ailgymysgiad, mae modd ei chyflwyno i wrandawyr eraill er mwyn iddynt gael clywed y gân yn eich ffordd personol chi. Mae’n anochel wedyn y bydd gwrando ar y trac gwreiddiol hefyd yn brofiad gwahanol o ganlyniad, wrth i’r gwrandäwr sylwi ar adrannau na fyddent wedi sylwi arnynt cynt.

Edrych i’r dyfodol

Mae’n amlwg felly bod creadigrwydd personol ailgymysgu yn ei gwneud hi’n rhan hanfodol o unrhyw sin gerddorol. Ond beth yw’r cam nesaf i ailgymysgiadau Cymraeg?

Wrth edrych i’r dyfodol ac aildanio diddordeb y genhedlaeth nesaf ym maes ailgymysgu, mae’n bwysig cadw mewn golwg pwysigrwydd hybu a denu amrywiaeth o gyfrannwyr i’r sin.

“Rili hapus fod ’na pobl o gefndiroedd di-gymraeg wedi gwneud ailgymysgiadau ohoni, yr unig siom ydi nad oes ’na ferched wedi gwneud hyd y gwyddwn i” meddai Yws wrth ymateb i’r amrywiaeth y gwnaeth stems ‘Deryn Du’ ddenu i’r maes.

“Mae ’na lawer o artistiaid sy’n gwneud ailgymysgiadau yng Nghymru ar hyn o bryd, na’i gymryd y cyfle yma i alw ar fwy o ferched i ymuno yn yr hwyl.”

Gyda buddugoliaeth electro-pop ddiweddar Ani Glass, a runs melfedaidd Eädyth yn cynyddol ddominyddu tonfeddi’r BBC, gobeithio wir mai dyma fydd yr hwb sydd angen ar fwy o artistiaid benywaidd i blymio i gyffro’r byd electronig ac ailgymysgu, gan ymuno â’r mudiad sy’n prysur dyfu yma yng Nghymru diolch i ‘Deryn Du’.

Geiriau: Tegwen Bruce-Deans