Cynnyrch cyntaf partneriaeth Eve & Sera

Mae dwy gantores ddawnus wedi cyfuno i weithio ar brosiect newydd ar y cyd, ac mae eu sengl gyntaf allan ers dydd Gwener diwethaf, 10 Ionawr.

Y ddwy gantores dan sylw ydy Eve Goodman a Sera Zyborska, ac ar y cyd maent yn ddeuawd cerddoriaeth werin difyr. Bydd enw Sera (neu Sera Louise) yn gyfarwydd i lawer a hithau wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth yn y Gymraeg a Saesneg ers sawl blwyddyn bellach.

Mae enw Eve yn un llai adnabyddus o bosib, ond mae’r gantores werin ifanc yn un o artistiaid cynllun Gorwelion y BBC ar hyn o bryd ac yn dod o’r Felinheli. Mae Sera hefyd ar y cynllun hwnnw, ac mae’r ddwy’n rhan o’r label CEG.

Er hynny, dyma’r tro cyntaf i’r ddwy gyd-weithio, a ffrwyth cyntaf eu llafur ar y cyd ydy’r sengl newydd, ‘Gaeafgwsg’.

Ffydd mewn natur

Mae eu cân gyntaf yn ymwneud â rhoi eich ffydd mewn natur wrth i chi adnewyddu dros fisoedd y gaeaf.

Y newyddion da pellach ydy bod EP ar y gweill ganddynt hefyd, gyda bwriad o’i ryddhau dros gyfnod y Pasg.

Fel y sengl, mae’r EP yn gasgliad o ganeuon wedi’u hysbrydoli gan fyd natur ar ôl iddynt ddod o hyd i wyddoniadur Cymraeg ar fywyd gwyllt a chael eu swyno gan y derminoleg goll a ddefnyddiwyd yn y llyfr.

Aled Wyn Hughes sydd wedi cynhyrchu’r trac newydd, ac mae’n cynnwys cyfraniadau gan Gwilym Bowen-Rhys (Mandolin), Katherine Betteridge (Ffidil) ac Elin Hâf Taylor (Cello).

I ddathlu dyddiad rhyddhau’r sengl, roedd perfformiad ar-lein byw gan Eve & Sera ar Facebook ddydd Gwener (gweler isod), a byddant hefyd yn perfformio cyfres o gyngherddau ‘stafelloedd byw’ yn Ne Cymru rhwng 13 a 15 Chwefror.

Song Share with Eve Goodman and SERA

[Skip to about 6 mins in while we sort out the video & sound] Come and take a seat by the fire as we sing you some songs to soothe the soul! This is a live stream experiment to celebrate the release of our new single, Gaeafgwsg which is out today, January 10th 2020, on iTunes and Spotify etc.

Posted by Eve Goodman Music on Friday, 10 January 2020