Bu i dros 23,000 o bobl ymuno ar ŵyl gerddoriaeth ar-lein a gynhaliwyd gan Radio Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar.
Cynhaliwyd Gŵyl Corona ar ddydd Sul 26 Mai ar dudalen Facebook Radio Ysbyty Gwynedd, gyda’r nod o godi arian at gost rhedeg yr orsaf radio a hefyd Awyr Las, sef elusen swyddogol Ysbyty Gwynedd.
Yn ôl y trefnwyr, denodd yr ŵyl dros 23,000 o wylwyr o bob cwr o’r byd gan gynnwys o wledydd fel Awstralia, Seland Newydd ac America.
Yn wreiddiol, roedd yr ŵyl i fod i ffrydio rhwng 7-9pm, ond oherwydd y gefnogaeth enfawr gan fandiau, cerddorion, digrifwyr a pherfformwyr, fe redodd yr ŵyl am dros 5 awr mewn gwirionedd.
KT Tunstall
Un o’r enwau amlycaf i ymuno â’r ŵyl oedd y ganores fyd-enwog KT Tunstall, enillydd Gwobr Ivor Novello â’r ŵyl o Los Angeles i ddymuno pob lwc i’r gwirfoddolwyr a pherfformio dwy gân gan gynnwys ei sengl enwog, ‘Suddenly I See’.
Mae dal modd gwylio’r ŵyl ar dudalen Facebook Radio Ysbyty Gwynedd.
Mae Gorsaf Radio Ysbyty Gwynedd, sydd wedi bod yn gwasanaethu’r gymuned leol ers dros 40 mlynedd, yn cael ei staffio’n gyfan gwbl gan wirfoddolwyr ac yn dod â cherddoriaeth, gwybodaeth, ceisiadau a negeseuon gan ffrindiau a theulu’n uniongyrchol i’r cleifion.
Gall cleifion wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd gan ddefnyddio ‘headsets’ yn ei gwely neu wrando ar-lein.
Mae Radio Ysbyty Gwynedd yn dibynnu ar roddion a gweithgareddau codi arian er mwyn cynnal y gwasanaeth. Oherwydd yr argyfwng COVID-19, bu’n rhaid i Radio Ysbyty Gwynedd ganslo tri o’u gigs codi arian.
Trefnodd aelodau pwyllgor Radio Ysbyty Gwynedd eu gŵyl uchelgeisiol mewn cwta dair wythnos yn unig yn dilyn awgrym gan un o’r aelodau i drefnu ffrydiad cerddoriaeth fyw i godi arian ar gyfer eu gwasanaeth. Trefnwyd yr Ŵyl o hirbell yn dilyn nifer o gyfarfodydd ‘Zoom’ a Facebook a negeseuon ar WhatsApp.
Roedd yr Ŵyl yn llwyddiant ysgubol gyda’r gwylwyr yn tiwnio i mewn o bob cwr o’r byd ac yn cyfrannu’n ariannol er mwyn helpu’r gwasanaeth barhau i ddarlledu ar gyfer y cleifion. O ganlyniad, mae’r orsaf yn agos iawn at gyrraedd eu targed codi arian, ond mae dal modd cyfrannu ar-lein.
Llun: KT Tunstall