Daf Jones yn rhyddhau sengl ‘Diffodd y Swits’

Mae’r cerddor o Ynys Môn, Daf Jones, wedi rhyddhau sengl newydd o’r enw ‘Diffodd y Swits’.

Dyma sengl gyntaf albwm Daf fydd alla cyn diwedd y flwyddyn, ac mae’n gân roc egniol.

Mae Daf Jones yn dod o Langefni ac wedi bod yn cyfansoddi caneuon ers tua pymtheg blynedd ar ôl dysgu ei hun sut i chwarae’r gitâr.

Mae ei ddatblygiad fel cerddor wedi bod yn un graddol dros y blynyddoedd gan ddilyn trywydd fydd yn gyfarwydd i nifer o artistiaid.

“Mi es i i’r Brifysgol yn Aberystwyth i astudio, ac ar ôl graddio mi wnes i gychwyn chwarae nosweithiau meic agored anffurfiol i fagu hunan-hyder ac i ddatblygu” meddai Daf.

“Yn fuan ar ôl hynny dyma fi’n cael ambell gig lleol o dro i dro, a dros y blynyddoedd diweddar mae gigio wedi bod yn fwy rheolaidd a dwi wedi bod gigio ledled Gogledd Cymru yn ogystal ag ambell gig yn Aberystwyth ac ambell un dros y ffin yng Nghaer.”

Croeso cynnes

Recordiodd Daf ei sengl gyntaf, ‘Stone’, yn stiwdio Sŵn, Bontnewydd gan ei rhyddhau yn 2016. Yna llynedd, yn 2019, aeth ati i recordio ei EP cyntaf yn Stiuwdio Tyn Rhos.

EP dwy-ieithog o’r enw Dare to Dream oedd yn cynnwys dwy gân Gymnraeg sef  ‘Un Munud’ a ‘Dim ond Chdi’.

Cafodd y traciau Cymraeg dipyn o groeso, gan gynnwys cael ei chwarae ar Radio Cymru ac fe recordiodd y cerddor sesiwn o’r gân ‘Dim ond Chdi’ ar gyfer rhaglen Heno ar S4C.

Yn dilyn llwyddiant yr EP, a’r traciau Cymraeg yn arbennig, penderfynodd Daf fynd ati i recordio albwm Cymraeg a dywed fod dau ran o dri o’r albwm wedi’i gwblhau cyn y cyfnod clo.

‘Diffodd y Swits’ ydy sengl gyntaf yr albwm ac mae wedi cael croeso cynnes yn barod, gan gynnwys gael ei chwarae ar raglenni Shân Cothi ac Ifan Evans ar Radio Cymru. Mae hefyd wedi’i dewis fel ‘Trac yr Wythnos’ ar Radio Cymru ar gyfer wythnos 28 Medi.

Mae ‘Diffodd y Swits’ ar gael wedi’i rhyddhau’n ddigidol ar yr holl lwyfannau arferol.