Dechrau recordio albwm Y Cledrau

Mae’r grŵp o ardal Y Bala, Y Cledrau, wedi awgrymu eu bod wrthi’n dechrau recordio albwm newydd.

Rhyddhaodd y pedwarawd eu halbwm cyntaf dan yr enw ‘Peiriant Ateb’ yn Rhagfyr 2017 ac ers hynny wedi bwrw ymlaen i sefydlu eu hunain fel un o brif grwpiau’r sin.

Maent ar hyn o bryd yn un o artistiaid cynllun Gorwelion BBC Cymru, ac fe ddatgelwyd ar eu cyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos eu bod wedi dechrau ar y gwaith o recordio eu hail albwm.

Dyma un o diwns mwyaf yr albwm cyntaf, ‘Cyfarfod o’r Blaen’, yn fyw yng Ngwobrau’r Selar llynedd: