Nid un i ddilyn y dorf ydy Eilir Pierce, ac wrth ryddhau ei albwm diweddaraf mae unwaith eto’n tynnu’n groes i’r graen yn ei ffordd unigryw ei hun.
Yuke Yl Lady ydy enw casgliad hir diweddaraf Eilir a ryddhawyd ddydd Gwener diwethaf, 2 Hydref – ei gynnyrch cyntaf ers yr EP ’36 a ryddhawyd yn 2015.
Wel…i fod yn fanwl gywir, yr albwm ydy ei gynnyrch cyntaf ers yr EP, Yuke Yl Lady, a ryddhawyd ym mis Gorffennaf eleni.
Mae’r albwm yn esblygiad o’r EP hwnnw mewn gwirionedd – yn cynnwys yr un caneuon, ond gydag ambell ychwanegiad.
Rhyddhawyd yr EP yn ddigidol ar ei safle Bandcamp, ond mae’r albwm arall ar ffurf cadarnach, a hynny ar gasét.
‘Dim yn unigryw yn hynny’ dwi’n clywed rhai yn dweud, ’mae nifer o artistiaid wedi rhyddhau stwff ar gasét dros y blynyddoedd diwethaf’. Digon gwir, ond yr hyn sy’n gwneud y penderfyniad yn wahanol ydy mai ar gasét yn unig mae’r record ar gael – rhywbeth anghyffredin iawn yn yr oes gynyddol ddigidol rydan ni’n byw ynddo.
Efelychu record gyntaf
Mae gan Eilir hanes hir gyda’r casét. Mae’n chwarter canrif ers iddo ryddhau ei dâp cyntaf –casgliad o ganeuon a recordiwyd ganddo mewn sied wair ar y ffarm deuluol yng Nghlocaenog, yn ystod haf poeth 1995.
“Mi oedd recordio ar dâp yn rhywbeth hollol accessible i mi” meddai Eilir.
“Cymrais y recordydd tâp a fy ngitâr i’r sied a chychwyn byrfyfyrio caneuon o flaen y defaid a’r ieir.
“Ond roeddwn i’n ddigon pretentious i’w alw yn ‘albym cyntaf’ ar y clawr, a nes i neud copis ohono i werthu ar iard yr ysgol.”
Gwaith celf ‘Ukeleilir’
Gyda ‘Yuke YL Lady LP’, mae’r cerddor yn dychwelyd at esthetig DIY ei gynnyrch cynharaf, nid yn unig yn arddull y caneuon, ond hefyd y ffordd mae pob casét wedi ei greu â llaw.
Gyda phob copi ceir bathodynnau unigryw gan Elin Bach, artist sydd wedi cydweithio ar ochr weledol y prosiect.
Mae nifer cyfyngedig o weithiau celf Elin Bach ar gael gyda’r casét dan y teitl, ‘Ukeleilir’.
“Cefais fy ysbrydoli wrth wrando ar gerddoriaeth Eilir i greu paentiadau haniaethol mewn palet yr oeddwn yn teimlo oedd yn cyd-fynd â’i waith, ac yn adlewyrchiad gweledol ohono,” meddai’r artist o’r Wyddgrug.
“Wedi cwblhau’r paentiadau, cefais y syniad o’u hail-gylchu yn lyfrau bach celf neu ‘chapbooks’, sydd yn teimlo fel trysor bach yng nghledr y llaw.
“Maen nhw wedi eu pwytho â llaw ac mae’r cloriau wedi eu teipio ar deipiadur, sydd yn cynnig esthetig DIY croesawgar i’r llyfrau bach.”
Byrfyfyr
Yn ôl Eilir mae caneuon Yuke Yl Lady yn syml iawn eu harddull ac yn fyrfyfyr eu natur.
Y syniad o gyfyngu fy hun i recordio caneuon llif yr ymennydd gyda ukulele a llais yn unig” eglura Eilir.
“Fel arfer dim ond y take cyntaf sy’n cael ei ddefnyddio, y take lle ma’r gân yn cael ei chyfansoddi yw hwnnw.”
“Dwi’n licio elfen byrfyfyr y peth, wastad wedi. Mae’n od neud o ar ben fy hun, ond fel hyn oeddwn i’n recordio 25 mlynedd yn ôl ac yn teimlo’n llai self concious.”
Ag yntau’n wneuthurwr ffilm uchel ei barch, mae Eilir hefyd wedi cynhyrchu ffilm ddogfen i gyd-fynd â rhyddhau’r albwm, ac roiedd cyfle cyntaf i weld y ffilm ar wefan Y Selar ar ddyddiad rhyddhau Yuke Yl Lady, sef dydd Gwener 2 Hydref.
Mae’r EP newydd ar gael ar safle Bandcamp Eilir, a’r LP ar ffurf casét y bydd modd ei archebu ar ei safle Bandcamp hefyd.
Dyma fideo hyfryd ‘Yuke Yl Lady’: