Mae’r grŵp pop siambr o Gaerdydd, Derw, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 28 Awst.
‘Ble Cei Di Ddod i Lawr’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf gan y prosiect newydd, ac mae’n dilyn eu sengl gyntaf, ‘Dau Gam’ a ryddhawyd ym mis Mai eleni.
Sefydlwyd y grŵp gan y cerddor Dafydd Dabson a’i fam, Anna Georgina gan gystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2018, a chyrraedd y rownd derfynol. Er na chafwyd llwyddiant yn Cân i Gymru, penderfynodd y ddau i ddal ati i ysgrifennu gyda’i gilydd, a tyfodd Derw o’r gwreiddiau hyn.
Hefyd yn y grŵp mae Elin Fouladi, y gantores Gymreig/Iranaidd, sy’n gyfarwydd hefyd fel El Parisa.
EP i ddod
Mae’r sengl newydd yn ran o EP ‘Yr Unig Rhai Sy’n Cofio’ fydd allan ym mis Medi, sydd hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan gerddorion o’r grwpiau Zervas and Pepper, Afrocluster a Codewalkers. Bwriad yr EP ydy sicrhau bod eu straeon teuluol yn aros mewn cof.
Cafodd sengl gyntaf Derw, ‘Dau Gam’, ymateb cadarnhaol iawn ym mis Mai ac fe’i dewiswyd fel ‘Trac yr Wythnos’ ar BBC Radio Cymru, yn ogystal â chael ei chwarae ar BBC Radio Wales.
Bydd y grŵp yn gobeithio gweld ‘Ble Cei di Ddod i Lawr’ yn cael ymateb cystal.
Mae’r sengl wedi’i rhyddhau’n ddigidol ar label CEG Records.