Deyah yn ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2020

Yr albwm ‘Care City’ gan y gantores Deyah ydy enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2020.

Cyhoeddwyd y newyddion mewn seremoni rithiol byw a gynhaliwyd nos Iau diwethaf, 19 Tachwedd.

Panel o arbenigwyr yn y diwydiant cerddoriaeth oedd yn gyfrifol am ddewis yr enillydd o restr fer o 15 albwm. Dewiswyd yr enillydd fel albwm pwerus a gafodd ei hunan-gynhyrchu a’i hunan-ryddhau, sy’n asio curiadau hamddenol, llif telynegol a chân achlysurol gan yr MC o Gaerdydd sy’n mynd i’r afael â phynciau fel dibyniaeth, unigedd ac iachâd.

Roedd albwm blaenorol Deyah, Lover Loner, hefyd ar restr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2019, yn yr un flwyddyn ag y cafodd ei hychwanegu at Restr Hot List BBC Introducing ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched.

“Mae ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig gyda Care City yn syndod llwyr ond yn anrhydedd llwyr” meddai Deyah mewn araith wrth dderbyn y wobr.

“Mae’n ddarn o waith sy’n dogfennu’r cyfnod anoddaf i mi fynd drwyddo erioed ac iddo gael ei enwebu heb sôn am ennill – dwi mor ddiolchgar! Gyda’r albwm yma dwi eisiau addysgu pobl i fyw bywyd heb bwysau o ddisgwyliadau.”

Gwrandawiad rhyfeddol

Y cyflwynydd Radio 1 a Radio Cymru poblogaidd, Huw Stephens, ydy un o gyd-sylfaenwyr y wobr, ac roedd yn credu bod albwm Deyah yn llawn haeddu’r anrhydedd eleni.

“Gwnaeth Care City gan Deyah argraff fawr ar y beirniaid gyda’i halbwm personol, barddonol a chynhyrchwyd yn gywrain” meddai Huw Stephens.

“Mae hi’n artist Cymreig ifanc sydd wir yn gwneud ei marc ar y sin gerddoriaeth, ac rydyn ni wrth ein boddau mai hi yw’r degfed derbynnydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig. Mae Care City yn wrandawiad rhyfeddol, mae ei geiriau a’i llif yn rhagorol.”

Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, cafodd y seremoni yn ffrydio trwy wefannau welshmusicprize.com ac amam.cymru, ac yn ogystal â’r cyflwynwyr, artistiaid, beirniaid a rheithwyr, cafwyd ymddangosiad annisgwyl gan yr actor Michael Sheen, sy’n adnabyddus am gefnogi cerddoriaeth a’r celfyddydau yng Nghymru.

Roedd pymtheg albwm ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni, gan recordiau iaith Gymraeg Ani Glass, Georgia Ruth, Gruff Rhys, Los Blancos ac Yr Ods.

Mae Deyah yn ymuno â rhestr drawiadol o enillwyr blaenorol sef Adwaith (2019), Boy Azooga (2018), The Gentle Good (2017), Meilyr Jones (2016), Gwenno (2015), Joanna Grusome (2014), Georgia Ruth (2013), Future of the Left (2012), Gruff Rhys (2011).

Enillwyr Gwobr Triskel

Yn ogystal â’r brif wobr, datgelwyd tri enillydd Gwobr Triskel yn y seremoni sef Eädyth, Mace The Great a Malan. Crëwyd Gwobr Triskel gan dîm Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2019 i ddathlu a chefnogi tri artist sy’n dod i’r amlwg sy’n cynnig dyfodol disglair i gerddoriaeth yng Nghymru.

Gyda chefnogaeth Help Musicians, mae’r artistiaid i gyd yn derbyn pecyn cymorth diwydiant gan gynnwys dyfarniad datblygiad creadigol o £500, mynediad am ddim i’r Cynllun Iechyd Clyw Cerddorion (MHHS) a dwy awr o gynllunio busnes gydag arbenigwr yn y diwydiant cerddoriaeth.

Rhestr fer lawr Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2020:

  • Mirores – Ani Glass
  • Chaos Wonderland – Colorama
  • Ofni – Cotton Wolf
  • Care City – Deyah
  • Steel Zakuski – Don Leisure
  • Mai – Georgia Ruth
  • Pang! – Gruff Rhys
  • Eyelet – Islet
  • Bring Me The Head of Jerry Garcia – Keys
  • A Vision In The Dark – Kidsmoke
  • Sbwriel Gwyn – Los Blancos
  • Valley Boy – Luke RV
  • Zone Rouge – Right Hand Left Hand
  • Everything Solved At Once – Silent Forum
  • Iaith Y Nefoedd – Yr Ods

Panel beirniaid Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2020:

Angharad Jenkins (cerddor / cyfansoddwr), Daniel Minty (Minty’s Gig Guide), Emma Zilmann (Bluedot / Kendal Calling), Ffion Wyn (Ladies of Rage), Gemma Cairney (BBC Radio / awdur), Mark Sutherland (Music Week), Polly James (Radio X), Sian Eleri Evans (BBC Radio Cymru / Folded Wing).