Bydd Geraint Rhys yn rhyddhau ei sengl Gymraeg newydd ar ddydd Gwener yma, 2 Hydref.
‘Dianc’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y cerddor o Abertawe, ac mae’n cael ei ryddhau ar label Akruna Records.
Gyda’r sengl newydd mae’r cerddor dwyieithog profiadol yn troi at sŵn yr 80au sy’n atseinio trwy’r gân sydd, yn ôl Geraint, yn anthem ar gyfer insomniacs.
Rydym wedi arfer gweld Geraint yn arbrofi gyda genres gwahanol er mwyn darganfod y sŵn cywir ar gyfer adlewyrch themâu ac arwyddocâd ei ganeuon.
Gyda’r trac diweddaraf mae’r cerddor yn defnyddio sŵn mwy electronig i adleisio ei brofiadau personol o drio cysgu a darganfod heddwch i’w hun yng nghanol goleuadau llachar y ddinas.
“Mae’r gân am insomnia a’r angen i ddianc oddi wrth yr unigedd o fod yn eich ystafell yn y nos tuag at oleuadau’r ddinas” meddai Geraint Rhys am ‘Dianc’.
“Fel arfer mae fy nghaneuon yn dechrau gyda’r geiriau gyntaf ac wedyn y gerddoriaeth, ond gyda ‘Dianc’ nes i geisio dod o hyd i sŵn fy insomnia a bod yn aflonydd yn y gyntaf.”
“Recordiais y vocals yn hwyr yn y nos yn fy ystafell ar ôl peidio cysgu am sbel. Felly beth ti’n clywed yw fersiwn onest ac amrwd o fy mhrofiad.”
Un agwedd arall amlwg o waith Geraint Rhys fel artist ydy ei arfer i gyhoeddi fideo ochr yn ochr â’i senglau, ac mae hynny’n wir gyda ‘Dianc’ hefyd.
Ar gyfer y gwaith ffilmio y tro yma mae wedi troi at dalentau dawnsiwr ifanc i gyfleu’r gân.
“Mae Abertawe wastad yn graidd i fy ysbrydoliaeth ac felly roeddwn i eisiau gwneud fideo yn y strydoedd cyfarwydd yma.
“Oherwydd rhythm y drymiau roeddwn i eisiau gweithio gyda dawnsiwr gyda’r gallu i gyfieithu awyrgylch y trac drwy ei symudiadau. Felly, wnes i gydweithio gyda’r dawnsiwr ifanc Bobi Coates ac mae wedi gwneud job wych o gynrychioli’r gerddoriaeth.”
Dyma’r fideo ar gyfer ‘Dianc’: