Mae Mei Gwynedd wedi rhyddhau ei sengl unigol diweddaraf ddydd Gwener diwethaf, 9 Hydref.
‘Dim Ffiniau’ ydy enw’r sengl sydd wedi’i rhyddhau’n ddigidol ar label Mei ei hun, JigCal.
Dyma’r ail sengl iddo ryddhau eleni yn dilyn ‘Awst 93’ a ryddhawyd ym mis Mehefin.
Rhyddhaodd y cyn aelod Big Leaves, Sibrydion ac Endaf Gremlin ei albwm unigol cyntaf, ‘Glas’ ym Mehefin 2018, cyn dilyn hynny gyda’r EP ‘Tafla’r Dis’ yn Ionawr 2019.
“Adeiladwn ninnau – pontydd yn lle ffiniau.”
Dyma eiriau cofiadwy’r sengl newydd, ac mae’r neges yn un glir.
Mewn blwyddyn sydd wedi gweld rhwystrau a digwyddiadau hollol anarferol yn llenwi’r cyfryngau, mae’r gân yn ddisgrifiad gonest o’r ffordd mae Mei yn teimlo wrth wylio’r newyddion.
“Mae rhai yn dweud ein bod yn byw mewn adeg heddychlon” meddai Mei Gwynedd.
“…ond dwi’n gweld y farn yma’n un anodd i’w gredu wrth weld yr holl densiwn ac annhegwch yn y byd.”
Mae’r gân yn cyfeirio at wleidyddiaeth a hanes wrth i’r cerddor drafod codi wal ac yna’i gymharu â dymchwel wal Berlin – ‘siawns allwn ddysgu o hen hanes?’ Cyfeirir hefyd at unigolion a frwydrodd dros eu hawliau a chredöau dros eraill fel Luther, Mandela, Schindler ac eraill.
Er gwaetha’r holl densiynau a chyfeiriadau at ryfeloedd ar y trac, mae’n gân o obaith ynglŷn â’r hyn y gallwn wneud gyda’n gilydd.
“Nid canwr pop, pêl-droediwr na’ seren deledu yw fy arwr bellach, ond y rhai sydd yn barod i helpu y rhai llai ffodus” eglura’r cerddor.
“Wneith cân Gymraeg ddim achub y byd, ond gobeithio wneith o wneud i’r gwrandawyr feddwl am funud neu ddwy.”
Roedd cyfle cyntaf i glywed y sengl ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru wythnos diwethaf, a bydd fideo cerddoriaeth wedi’i greu gan Steffan Dafydd (Penglog) yn cael ei gyhoeddi ar sianel JigCal ar wefan AM ddydd Llun, 12 Hydref.