‘Diogel’ – sengl newydd Shamoniks x Eädyth

Mae’r berthynas gerddorol rhwng y cynhyrchydd Shamoniks a’r artist electronig Eädyth yn parhau i flodeuo wrth iddyn nhw ryddhau sengl newydd ddydd Gwener diwethaf, 10 Gorffennaf.

‘Diogel’ ydy enw’r trac diweddaraf sydd wedi cael ei ryddhau ganddynt. Mae’n ddilyniant i’r albwm, Keiri, a ryddhawyd gan y ddeuawd yn Awst 2019, ac a gafodd ymateb arbennig o dda.

Mae’r sengl yn un o gasgliad o draciau mae’r ddeuawd wedi bod yn gweithio arnyn nhw gyda’i gilydd, ac y neu tyb nhw, dyma’r trac D’n’B cyntaf erioed yn yr iaith Gymraeg.

Neges gadarnhaol

Fel nifer o draciau newydd rydym wedi gweld yn ddiwedd, mae’r sengl newydd wedi dwyn dylanwad o sefyllfa’r cloi mawr.

“Mae geiriau ‘Diogel’ wedi eu hysgrifennu yn dilyn ychydig fisoedd anodd iawn” meddai Eädyth.

“Wrth i ni fethu â theimlo’n ddiogel a theimlo ein bod mewn ‘limbo’ roeddwn i eisiau i’r gân cael neges rymusol gadarnhaol y tu ôl iddi.

“Felly pan fyddwch chi’n teimlo’n aneglur gallwch chi bob amser ddod o hyd i le diogel. Yn fy achos i, bod yn greadigol ac ysgrifennu yw fy lle diogel.”

Mae’r trac newydd allan ers dydd Gwener 10 Gorffennaf ar yr holl lwyfannau digidol arferol – label Udishido, sef label Sam Humphreys (Shamoniks) sy’n rhyddhau.

Llun: Eädyth gyda Shamoniks yng Ngwobrau’r Selar 2020 (Y Selar / FfotoNant)