Mae 12 Mehefin eleni wedi cael ei enwi fel Diwrnod Crysau T Bandiau Cymru.
Syniad Huw Stephens ydy cynnal y diwrnod er mwyn cefnogi artistiaid Cymraeg yn y cyfnod yma lle nad oes modd iddynt gigio.
Y bwriad ydy annog pawb i brynu crysau T gan fandiau o Gymru a’u gwisgo ar y dyddiad yma, neu wisgo un maent eisoes yn berchen.
Y gobaith yw bydd pobl yn rhannu lluniau o’r crysau T gan ddefnyddio’r hashnod #dyddcrysautbandscymru / #welshbandstshirtday