Dyddiad rhyddhau albwm Daf Jones

Mae Daf Jones wedi cadarnhau i’r Selar bydd yn rhyddhau ei albwm cyntaf ar 8 Ionawr.

Mae’r cerddor o Fôn wedi rhyddhau dwy sengl fel tameidiau i aros pryd dros y misoedd diwethaf sef ‘Diffodd y Swits’ ym mis Medi, ac yna ‘Sbardun’ ar 20 Tachwedd.

Paid Troi ‘Nôl fydd enw ei albwm newydd fydd yn cynnwys y ddwy sengl, a bellach mae wedi cadarnhau bod y gwaith recordio wedi’i gwblhau, a bod y record allan yn swyddogol ar 8 Ionawr 2021.

Mae Daf Jones yn dod o Langefni, ac wedi bod yn cyfansoddi caneuon ers tua phymtheg blynedd ar ôl dysgu ei hun sut i chwarae’r gitâr.

Bu i’r brifysgol yn Aberystwyth, ac ar ôl graddio dechreuodd chwarae mewn nosweithiau meic agored, cyn symud ymlaen i wneud gigs achlysurol yn lleol i ddechrau, ac yna taflu’r rhwyd ychydig yn ehangach.

Deng mlynedd o gyfansoddi

Yn ôl y cerddor mae caneuon yr albwm wedi’u hysgrifennu dros sawl blwyddyn.

Yn wir, mae’r gân hynaf ar yr albwm, ‘Trysor’, wedi ei hysgrifennu tua deng mlynedd yn ôl tra bod ‘Rhwng Cariad a Chur’, a gyfansoddwyd ym mis Ionawr eleni, yn llawer mwy diweddar.

Mae senglau’r albwm sydd wedi ymddangos hyd yma wedi cael croeso cynnes gyda ‘Diffodd y Swits’ yn benodol yn cael ei chynnwys fel ‘Trac yr Wythnos’ ar BBC Radio Cymru ddiwedd mis Medi.

Recordiwyd yr albwm rhwng Ionawr 2020 a Tachwedd 2020, rhwng cyfnodau clo, yn Stiwdio Tyn Rhos, Bryngwran, Ynys Môn. Rhys Jones sy’n gyfrifol am y gwaith cynhyrchu a mastro ar y record.

Bydd yr albwm yn cael eu ryddhau’n ddigidol ar ddydd Gwener, 8 Ionawr, ond yn ôl Daf bydd hefyd ar gael ar ffurf CD yn y dyfodol agos wedi hynny.