Dyfarnu £10,000 o Gronfa Momentwm y PPL i Adwaith

Mae’r grŵp o Gaerfyrddin, Adwaith, wedi derbyn £10,000 tuag at gostau hyrwyddo eu halbwm nesaf gan gronfa’r PPL Momentun Fund’.

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ddatblygiadau arwyddocaol yn hanes y triawd, sydd wedi mynd o nerth i nerth ers dechrau dod i amlygrwydd yn 2016, gan gynnwys cipio teitl y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2019 am eu halbwm cyntaf, Melyn.

Yn ogystal â bod yn hwb mawr i’r grŵp wrth iddynt weithio ar eu dilyniant i Melyn, mae’r newyddion yn un arwyddocaol yn yr ystyr mai nhw ydy’r band Cymraeg cyntaf i gael eu noddi gan y gronfa.

Mae Adwaith ymysg 16 o artistiaid sydd wedi derbyn cyllid o’r gronfa eleni. Roedd yr artistiaid buddugol yn cael eu dewis gan banel o arbenigwyr diwydiant cerddoriaeth.

Mae’r artistiaid eraill sydd wedi eu cefnogi’r cynnwys She Drew The Gun o Lerpwl, a enillodd wobr ‘Emerging Talent’ Gŵyl Glastonbury yn 2016, y rapiwr o Aberdeen, Ransom FA a’r gantores Br3nya oedd wedi ei dewis ar restr ‘Hot For 2020’ BBC1xtra.

Mae’r mwyafrif o’r gwaith recordio ar albwm nesaf Adwaith eisoes wedi’i gwblhau, a’r gobaith yw y bydd yn cael ei ryddhau ym mis Mehefin 2021.

Roedd Adwaith, ynghyd â Pys Melyn, yn perfformio yn narllediad byw diweddaraf Stafell Fyw, S4C o Glwb Ifor Bach nos Fercher diwethaf. Mae modd prynu’r gig i’w wylio nôl ar wefan Stafell Fyw.