Mae asiantaeth hawliau darlledu Eos wedi cyhoeddi enwau ymgeiswyr llwyddiannus eu cronfa gyllid ar gyfer 2020.
Mae’r gronfa’n gyfrifol am gasglu breindaliadau darlledu ar ran artistiaid Cymraeg, a’u dosbarthu i’r artistiaid hynny.
Yn ogystal maent yn rhedeg y gronfa sy’n cynnig nawdd er budd y diwydiant, ac sy’n agored i geisiadau gan artistiaid, cyfansoddwyr, hyrwyddwyr neu unrhyw un sy’n gwneud bywoliaeth lawn neu ran amser drwy gerddoriaeth Cymraeg.
Gellir gwneud cais am gyllid rhwng £500 a £2000 o’r gronfa, hyd at 70% o gyfanswm cost y prosiect. Bwrdd panel diduedd sy’n penderfynu ar y ceisiadau llwyddiannus.
Mae’r ymgeiswyr llwyddiannus eleni’n cynnwys yr artistiaid Alun Gaffey, Francesca Dimech, Gareth Bonello, Mared Williams, Plu ac Ynys, ynghyd â label Aran a Chwmni Theatr Maldwyn.
“Mae wedi bod yn flwyddyn galed i gerddorion a chyfansoddwyr Cymreig ac mae’n bleser mawr gennyf fod Eos medru helpu’r diwydiant yn y fath modd” meddai Tomos I. Jones, Gweinyddwr Eos.
“Mae’r nifer uchel o geisiadau a dderbyniwyd gan y Gronfa eleni yn dystiolaeth fod mwy angen ei wneud i gefnogi ac amddiffyn y diwydiant yma yng Nghymru.”
Dyma gryndeb o’r ceisiadau llwyddiannus.
Alun ffeyGa – Cyfraniad tuag at offer newydd.
Aran – Cyfraniad tuag at ddatblygu gwefan newydd.
Francesca Dimech – Cyfraniad tuag at recordio caneuon newydd.
Gareth Bonello – Cyfraniad tuag at offer newydd.
Mared Williams – Cyfraniad tuag at gynhyrchu albwm gysyniad newydd.
Plu – Cyfraniad tuag at gynhyrchu albwm newydd.
Cwmni Theatr Maldwyn – Cyfraniad tuag at gynhyrchiad newydd o Y Mab Darogan i ddathlu 40 mlynedd ers sefydlu’r cwmni.
Ynys – Cyfraniad tuag at gynhyrchu albwm newydd.