Eädyth ac Endaf yn rhyddhau ‘Mwy o Gariad’

Mae sengl newydd ar y cyd rhwng Endaf ac Eädyth allan ers dydd Gwener 18 Rhagfyr.

‘Mwy o Gariad’ ydy enw cywaith diweddaraf y ddeuawd, ac mae’n cael ei rhyddhau gan label High Grade Grooves.

Dyma’r ail waith i’r ddau gerddor electronig gyd-weithio i ryddhau cerddoriaeth yn ystod 2020 yn dilyn rhyddhau ‘Disgwyl’ ar y cyd ag Ifan Dafydd nôl ym mis Chwefror.

Ar y sengl newydd mae llais Eädyth yn gweddu ymdeimlad Nu-Disco y trac, ac mae dylanwadau downtempo jazzy y ddeuawd i’w glywed yn glir drwy’r trac.