Eädyth ac Izzy Rabey yn cyd-weithio ar EP newydd

Mae dwy gantores gyffrous wedi dod ynghyd i gyd-weithio ar EP newydd sydd allan y penwythnos yma.

Mas o Ma ydy enw’r record fer newydd sy’n gweld Eädyth yn ffurfio partneriaeth gydag Izzy Rabey.

Bydd unrhyw un sy’n dilyn y newyddion cerddoriaeth ar wefan Y Selar yn hen gyfarwydd ag Eädyth sydd wedi hen sefydlu ei hun fel cerddor electronig o bwys dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Wrth wneud hynny mae wedi cyd-weithio â nifer o artistiaid eraill, ac ei phrosiect diweddaraf yn ei gweld yn cyd-weithio â chantores ychydig yn llai cyfarwydd, sef Izzy Rabey.

Rapiwr dwyieithog newydd a ddaw’n wreiddiol o Fachynlleth ydy Izzy, ac yn debyg i Eädyth caiff ei hysbrydoli gan fynyddoedd hyfryd Machynlleth.

Mae Izzy hefyd yn gyfarwyddwr theatr ac ymarferwraig theatr syn rhannu ei hamser rhwng Caerdydd a Llundain. Mae wrthi’n hyfforddi i fod yn gyfarwyddwr yn The Royal Court ac wedi cyfarwyddo gyda National Theatre Wales.  Mae hefyd yn gyfarwyddwr artistig i Run Amok Theatre Company a’r ŵyl/cwmni theatr Under the Sun / Dan yr Haul. Izzy hefyd ydy un hanner y ddeuawd pync / gwerin / RnB amgen, The Mermerings.

Trafod pethau pwysig

Bu’r ddwy artist yn cyd-weithio ers mis Chwefror 2020 ar ôl gweithio gyda’i gilydd ar gynhyrchiad theatr Elinor Cook ‘Microwave’ a gafodd ei gyfarwyddo gan Izzy. Eädyth oedd yn gyfrifol am y dyluniad sain ar gyfer y cynhyrchiad.

Wedi’u hysbrydoli gan artistiaid fel Haitus Kaiyote, Lauryn Hill ac Erykah Badu, mae Eädyth ac Izzy wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd ar ‘Mas o Ma’ yn ystod cyfnod y Cloi Mawr eleni.

Mae’r EP yn un neo-soul a hip-hop sy’n cynnwys geiriau dwys a theimladwy, a chynhyrchiad esmwyth ffynci a llawn curiad.

Wrth drafod y record newydd mae Izzy Rabey yn egluro ei fod yn gyfle iddi drafod pethau sy’n bwysig iddi.

“I fi, roedd ysgrifennu’r EP yma yn gyfle i mi siarad yn onest am iechyd meddwl, perthnasau a’r hyn mae’n golygu i fod yn ddynes queer yng Nghymru” meddal Izzy.

“Rydw i wedi fy ysbrydoli gan hip hop old school fel De La Soul, The Roots, Bahamadia a The Fugees yn ogystal â bandiau Cymraeg fel Pep Le Pew

“Fy hoff fand yw Hiatus Kaiyote ac rydw i wedi fy ysbrydoli gan artistiaid fel Erykah Baduand Sumer Walker, felly mae wastad dylanwadau neo-soul yn fy hoff gerddoriaeth.”

Mae Mas o Ma allan ar label Recordiau Udishido fory, 30 Hydref.