Eädyth, Los Blancos a Sywel Nyw ymysg artistiaid llwyddiannus Cronfa Lansio

Mae cynllun Gorwelion BBC Cymru wedi cyhoeddi enwau’r artistiaid sydd wedi llwyddo i gael gafael ar gyllid o Gronfa Lansio’r prosiect eleni.

Yn ôl Gorwelion, mae’r rhestr o artistiaid buddugol yn cynrychioli’r rhestr fwyaf amrywiol i’w gwobrwyo hyd yma, gyda phedair ar ddeg o artistiaid benywaidd, ac un ar bymtheg o gerddorion du ac ethnigrwydd lleiafrifol yn llwyddiannus.

Yn ogystal â hynny mae ystod eang o genres cerddorol yn derbyn arian i’w cynorthwyo i ddatblygu ei gyrfaoedd.

Mewn blwyddyn sydd wedi bod yn un hynod o heriol i gerddorion, bydd croeso mawr i’r cyfanswm o ddeugain mil o bunnoedd sy’n cael ei rannu.

Am y tro cyntaf erioed hefyd, mae tri label Cymreig, sef High Grade Grooves, Recordiau JigCal a Something Out of Nothing Records yn derbyn tamaid o’r gacen er mwyn meithrin talent ifanc.

Ymysg yr artistiaid Cymraeg sydd wedi bod yn llwyddiannus gyda cheisiadau mae Eädyth, Ifan Pritchard, Los Blancos, Malan Jones, Sywel Nyw a Thallo.

Er ei sefydlu yn 2014 mae Gorwelion wedi cynnig nawdd i dros 200 o artistiaid gan fuddsoddi £210,000 yn y diwydiant cerddoriaeth Gymreig. Wrth wneud hynny maent wedi cefnogi llwyth o artistiaid i weithio’n greadigol, defnyddio amser stiwdio, comisiynnu ffotograffiaeth a gwaith celf, hyrwyddo cynnyrch, prynu offer, cynhyrchu fideos a chyfrannu at gostau teithio.

Roedd panel Gorwelion eleni’n cynnwys pump ar hugain o aelodau gan gynnwys Cian Ciaran o’r Super Furry Animals, y cynhyrchwyr Gethin Pearson a Kris Jenkins, y rheolwr bandiau Ryan Richards, y gantores Casi, a llwyth o flogwyr, perfformwyr ac unigolion eraill gweithgar yn y diwydiant cerddoriaeth.

Rhestr lawn o ymgeiswyr llwyddiannus y Gronfa Lansio:

Aleighcia Scot
Eädyth
Faith
Foxxglove
Hako
Hemes
High Grade Grooves
HVNTER
Ifan Pritchard
K(E)NZ
Kingkhan
Leila Mckenzie
Los Blancos
Mace the Great
Madi
Magugu
Malan Jones
Mass Accord
Mawpit
Minas
Monique B
Phoenix Rise
Razkid
Recordiau Jigcal
Rona Mac
Something Out of Nothing Records
Sonny Double 1
Swannick
Sywel Nyw
SZWE
Thallo
The Honest Poet
Traxx