Mae’r gantores electroneg, Eädyth, wedi rhyddhau ei sengl newydd ddydd Gwener diwethaf, 7 Awst.
‘Tyfu / Grow’ ydy enw’r trac diweddaraf ac mae’n cael ei ryddhau ar label recordiau UDISHIDO.
Mae Eädyth wedi bod yn un o artistiaid prysuraf y misoedd diwethaf, ac mae’r sengl newydd yn dilyn senglau eraill diweddar sef ‘Diogel’, trac ar y cyd â Shamoniks (Sam Huphreys), a ryddhawyd fis Gorffennaf, a ‘Penderfyniad’ a ryddhawyd ganddi ym mis Mehefin.
Bu iddi hefyd ryddhau’r sengl ‘Rhedeg’ ym mis Chwefror, ynghyd â’r trac ‘Disgwyl’ ar y cyd ag Ifan Dafydd ac Endaf yn yr un mis.
Yn ôl y label, mae’r sengl ddwy-ieithog newydd, ‘Grow / Tyfu’ yn sengl llawn egni trydanol dywyll. Dyma gân am bŵer personol, gydag adleisiau o’i sengl ddiwethaf yn ogystal â chlychau melodig a harmonïau trwchus.
Gyda gwead a gwrthgyferbyniad y canu cefndirol aflun a’r riffs lleisiol soul cyfarwydd Eädyth, mae ‘Grow / Tyfu’ yn ddarn o waith sy’n arddangos talent y gantores ar ei orau.
Dyma’r fideo swyddogol ar gyfer y sengl: