Un artist sydd wedi bod yn gynhyrchiol iawn dros gyfnod y cloi mawr ydy’r cerddor electroneg, Plyci.
Mae eisoes wedi rhyddhau dwy sengl yn ogystal â’r EP, ‘Ogof’, yn ystod cyfnod y cloi, a ddydd Gwener rhyddhaodd sengl newydd arall.
‘EDOACID-19’ ydy enw’r trac newydd, ac mae modd ei lawr lwytho ar ei safle Bandcamp.