Bydd yr artist electronig o Gaernarfon, Endaf, wedi rhyddhau sengl newydd heddiw, 13 Mawrth.
‘Rest of Me’ ydy enw’r trac newydd a bydd yn cael ei ryddhau gan label High Grade Grooves, sef label y cerddor.
Mae Endaf yn gynhyrchydd, DJ ac artist electroneg byw o ardal Caernarfon.
Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn dda iddo hyd yma’n dilyn cael ei ddewis fel un o artistiaid cynllun BBC Gorwelion eleni.
Mae hefyd wedi’i gynnwys ar BBC Introducing’s ‘The Hotlist’ gan Jaguar, wedi clywed ei gerddoriaeth yn cael ei chwarae ar BBC Music, ‘The Chilliest Show’ ar BBC Radio 1, a hefyd yn rheolaidd ar Radio Cymru a Radio Wales.
Yn ddiweddar bu Endaf yn cyd-weithio â dau artist electroneg Cymraeg arall sef Eädyth ac Ifan Dafydd gan ryddhau’r sengl ‘Disgwyl’ ddechrau mis Chwefror.
Mae naws ymlaciedig y sengl honno’n parhau ar ei drac newydd, ‘Rest of Me’ sy’n cynnwys lleisiau atmosfferig sydd wedi’u torri a’u plygu, allweddellau llyfn a churiadau toredig, dyma’r soundtrack perffaith ar gyfer dy ddydd Sul diog nesaf.