Mae cantores adnabyddus yn ôl gyda phrosiect newydd a chân newydd sydd wedi ymddangos ar ei chyfryngau digidol.
Parisa Fouladi ydy’r gantores dan sylw, ond mae’n siŵr y bydd yn fwy cyfarwydd i lawer fel El Parisa.
Mae’r ddau enw llwyfan yn amrywiadau ar ei henw llawn, sef Elin Parisa Fouladi ac yn y gorffennol mae wedi bod yn amlwg am ei gwaith pop electroneg, gan gyd-weithio â’r grŵp Clinigol ymysg eraill.
Er hynny, mae Elin yn ôl gyda phrosiect newydd ac yn arbrofi gyda sŵn sydd ychydig yn wahanol i’r hyn rydym wedi clywed ganddi yn y gorffennol.
“O’n i isio arbrofi efo miwsig mwy soulful ac offerynnau byw yn lle jyst stwff electro fel dwi di neud yn y gorffennol” meddai Elin wrth drafod ei cherddoriaeth newydd.
EP ar y gweill
‘Siarad’ ydy ei thrac cyntaf fel rhan o’r prosiect diweddaraf yma ac mae wedi troi am gymorth y cynhyrchydd uchel ei barch Krissie Jenkins.
Yn ôl Elin, y bwriad nawr ydy gweithio ar EP gyda Krissie.
Mae Elin hefyd yn gweithio ar brosiect synth pop o’r enw Toombs ar hyn o bryd ac mae modd i chi ffeindio eu cerddoriaeth ar Spotify.
“Dwi’n licio arbrofi efo lot o wahanol fiwsig ar y foment ac yn licio trio pethe allan yn y tŷ a recordio demos fy hun” meddai’r gantores.