Mae Lisa Pedrick wedi rhyddhau ei EP newydd heddiw, dydd Gwener 6 Tachwedd.
‘Dim ond Dieithryn’ ydy enw’r record fer newydd ac mae’n cael ei rhyddhau gan label Recordiau Rumble.
Mae’r EP yn rhannu enw’r sengl a ryddhawyd gan y gantores o Waun-Cae Gurwen ddiwedd mis Awst ac a gafodd dderbyniad da.
Daeth Lisa i’r amlwg gyntaf ar gyfres deledu talent S4C, ‘Wawffactor’, gan ddod yn fuddugol yn y gyfres gyntaf yn 2004.
Ers hynny mae Lisa wedi rhyddhau EP ac albwm o’r enw ‘Dyma’r Amser’ oedd yn cynnwys traciau wedi’u hysgrifennu ganddi hi a cherddorion talentog eraill gan gynnwys Henry Priestman, Steve Balsamo a Cerys Matthews.
Wedi cyfnod tawelach, mae Lisa wedi cael rhywfaint o adfywiad yn ystod 2020 gan ryddhau tair sengl hyd yma. Rhyddhawyd y gyntaf, ‘Ti Yw Fy Seren’ ym mis Ebrill, gydag ‘Icarus’ yn dilyn ym mis Gorffennaf.
Penllanw’r gyfres o senglau ydy’r EP newydd gan Lisa. Yn ogystal â’r 3 sengl, bydd y trac gwreiddiol ‘Sunshine’ a threfniant Lisa o’r emyn poblogaidd ‘Fel yr Hydd’ yn ymddangos ar yr EP.
Roedd Lisa yn awyddus i weithio gyda chynhyrchwyr a cherddorion lleol ar gyfer y prosiect cerddorol hwn.
Recordiwyd y caneuon yn Bridgerow Studios, Glanaman a Sonic One studio yn Llanelli. Clywir Tad Lisa yn chwarae’r rhannau pres ar 2 trac hefyd!