EP newydd Carwyn Ellis

Mae Carwyn Ellis wedi rhyddhau EP newydd fel rhan o’i ymgyrch i helpu codi arian tuag at brynu offer gwarchodol personol i weithwyr iechyd yng Nghymru yn ystod yr argyfwng Coronavirus.

Bythefnos yn ôl, rhyddhaodd y cerddor sengl o’r enw ‘Cherry Blossom Promenade’ ar ei safle Bandcamp fel rhan o’r ymgyrch i godi arian trwy elusen Tarian Cymru.

Nawr mae wedi mynd gam ymhellach trwy ryddhau EP tri thrac o’r enw ‘Ti’ sydd ar gael i’w lawr lwytho ar ei safle Bandcamp yn unig.

Sesiwn Tŷ

Mae’r dair trac newydd yn rai Cymraeg ac wedi’u recordio’n wreiddiol ar gyfer rhaglen BBC Radio Cymru Lisa Gwilym, ac yn benodol ar gyfer yr eitem ‘Sesiwn Tŷ’ yn fuan yn ystod y cyfnod cau lawr presennol.

Recordiwyd y traciau’n wreiddiol yn Rio de Janeiro, Caernarfon a Llundain llynedd.

Roedd y trac agoriadol, ‘Gair o Gysur’ yn Drac yr Wythnos ar BBC Radio Cymru wythnos diwethaf.

Roedd y traciau hefyd yn rhan o sesiwn recordio albwm ‘Joia’ Carwyn Ellis a Rio 18 a ryddhawyd llynedd, ond ddim cweit yn ffitio i’r casgliad terfynol yn ôl Carwyn.

Y cerddorion sy’n ymddangos ar y traciau ydy Carwyn Ellis (llais, piano, organ, ukelele, gitars a basŵn), Kassin (bass), Andre Siqueira (offer taro), Domenico Lancelotti (drymiau), Gwion Llewelyn (trump).

Cynhyrchwyd ‘Gair o Gysur’ gan Kassin, a’r ddau drac arall gan Aled Wyn Hughes.

Fel y sengl ‘Cherry Blossom Promenade’, mae arian holl werthiant yr EP newydd yn mynd at elusen Tarian Cymru sy’n gwneud gwaith ardderchog o godi arian at brynu offer PPE i weithwyr iechyd  a gofal rheng flaen yma yng Nghymru.

Dyma fideo’r sengl ddiweddar, ‘Cherry Blosson Promenade’: