Mae prosiect cerddorol newydd ffryntman y grŵp o Gaerfyrddin Cpt Smith, wedi rhyddhau eu EP cyntaf ar eu safle Bandcamp.
Shtëpi ydy enw grŵp newydd Ioan Hazell, sydd hefyd yn aelod o’r ddeuawd Names. Ym mis Mai fe ryddahodd y cerddor ei EP unigol cyntaf hefyd, sef ‘Nothing Cool About Ioan Hazell’.
‘Yacht Rock’ ydy enw cynnyrch diweddaraf Shtëpi sydd allan ers 3 Mehefin, ac mae’n cynnwys pedwar trac.
Mae holl incwm gwerthiant yr EP yn mynd tuag at elusen Stop Hate UK.