Euros Childs yn rhyddhau Kitty Dear

Mae cerddor mwyaf cynhyrchiol ei genhedlaeth, Euros Childs, wedi parhau â’i record o ryddhau albwm blynyddol wrth gyhoeddi record newydd wythnps diwethaf.

Kitty Dear ydy enw record hir ddiweddaraf y cyn aelod Gorkys Zygotig Mynci sydd allan ers 22 Rhagfyr, ac sy’n cael ei ychwanegu at restr hirfaith o albyms ganddo.

Cynhyrchwyd y record gan Stephen Black, sy’n gyfarwydd hefyd fel y cerddor Sweet Baboo, ac fe’i recordiwyd ym Mhenarth ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2020.

Mae’r albwm ar gael i’w ffrydio a lawr lwytho ar wefan Euros, gyda’r cerddor yn gofyn i chi gyfrannu beth bynnag rydych yn dymuno yn hytrach na chodi pris penodol.

Mae rhyddhau’r albwm yn cynnal record Euros o ryddhau o leiaf un albwm unigol y flwyddyn ers rhyddhau ei record hir gyntaf, Chops, yn 2006.