Mae’r grŵp pres amgen, Band Pres Llareggub, wedi rhyddhau fersiwn newydd o anthem Candelas, Anifail ers dydd Gwener 30 Hydref.
Maen nhw hefyd wedi recriwtio dau artist cyfoes amlwg iawn i ganu ar y trac sef Katie Hall o’r grŵp roc Chroma, a Rhys Gwynfor.
“Mae’r gwreiddiol yn uffar o drac da ac fy mwriad i oedd ceisio gwneud rhywbeth gwahanol efo’i” meddai Owain Roberts, sef arweinydd Band Pres Llareggub.
“Fedra ni ddim curo’r gwreiddiol ond y gobaith ydy y gwneith hi adio rhywbeth arbennig i’ch calan gaeaf.”
Ers i’w grŵp Chroma ffrwydro i amlygrwydd rhyw bedair blynedd yn ôl, mae Katie Hall wedi sefydlu ei hun fel un o leisiau a phresenoldebau mwyaf llwyfannau Cymru.
Yn ogystal â’i phrif lais hi ar y trac, mae Rhys Gwynfor yn cyfrannu i’r fersiwn newydd gyda theyrnged i drac arswyd epig ‘Thriller’ gan Michael Jackson.
“Dani’n hynod lwcus i gael gweithio am y tro cyntaf gyda Katie Hall, sydd yn llais cyfarwydd i ni yng Nghymru fel prif leisydd y band, Chroma.
“Mae’r gân yn dangos ei thalent a hyblygrwydd lleisiol ag odd o’n bleser cyd-weithio gyda hi!”
Bach mwy o newyddion da am Fand Pres Llareggub wythnos diwethaf hefyd sef fod y rhaglen ddogfen S4C yn dilyn eu taith i chwarae mewn gŵyl y New Orleans, ‘Cyrn Ar Y Mississippi’, wedi cipio gwobr BAFTA Cymru am y Rhaglen Adloniant Orau.
Dyma ‘Anifail’: