Mae Bitw, sef prosiect y cerddor gwych Gruff ab Arwel, wedi rhyddhau fersiwn newydd, gwahanol iawn, o’i albwm cyntaf.
Rhyddhawyd fersiwn gwreiddiol yr albwm ym mis Mai 2019, dan yr enw ‘Bitw’, ac mae’n llawn o’r synau pop electronig low fi rydan ni wedi dod i arfer eu clywed gan y cyn aelod Eitha Tal Ffranco presennol Y Niwl.
Prysur Ymarfer ydy enw’r fersiwn newydd o’r albwm, ac mae’r sain yn wahanol iawn i’r gwreiddiol, gyda dim ond dau offeryn syml sef piano, a llais Gruff.
Fersiwn pot jam
“Dwi wedi recordio fersiwn pot jam piano a llais o fy record gyntaf – ‘Prysur Ymarfer’ – sydd ar gael i brynu rwan am £2, neu faint bynnag da chi’n meddwl ma’n haeddu” meddai Gruff.
Er hynny, mae’n ymddangos fod Gruff wedi oedi a phetruso cyn rhyddhau’r casgliad ar ei newydd wedd.
“Ma na rwbeth wedi bod yn fy nal nôl i raddau rhag rhoi hwn allan, rhyw deimlad ella y byswn i ond yn ychwanegu at y llu o bethau sy’n ymddangos ar y we bob dydd yn y cyfnod rhyfedd yma – er mor wych di gweld cymaint o stwff newydd, dwi’n ymwybodol o’r pwysau ma pethau felly’n gallu ei roi ar artistiaid i greu.”
“Ond yn y pen draw, nes i benderfynu mynd amdani, am y rheswm mai dim ond am gyfnod cyfyngedig y bydd yr albwm ar gael ac mae hynny o gysur i mi mewn ffordd, gan fod o’n fy atgoffa, er ei bod hi’n teimlo braidd fel diwedd y byd ar hyn o bryd, y daw eto haul ar fryn.”
Diolch byth fod Gruff wedi setlo ar gyhoeddi’r albwm, hyd yn oed os mai dim ond dros dro mae hynny – gwrandewch a lawr lwythwch tra bod cyfle.
Sylwch ar y gwaith celf clyfar ac amserol gyda llaw.
Mae ‘Prysur Ymarfer’ ar gael i’w lawr lwytho’n ddigidol nawr ar safle Bandcamp Bitw, ond ddim ond am gyfnod byr, amhenodol!