‘Ffaelu credu’ – blwyddyn anhygoel Adwaith

Ar ôl blwyddyn lwyddiannus iawn arall i’r triawd o Gaerfyrddin, gohebydd Y Selar, Lois Gwenllian, fu’n sgwrsio gydag Adwaith cyn y Nadolig gan holi beth sydd i ddod nesaf.

 

Mewn cwta dwy flynedd ers rhyddhau eu sengl gyntaf mae Adwaith wedi cerfio lle iddynt eu hunain yn hanes sin gerddoriaeth Cymru’n barod.

Rhyddhaodd y band eu halbwm cyntaf, Melyn, ddiwedd 2018 ac fe greodd ymateb ffafriol iawn i’r casgliad don o gyffro o amgylch Adwaith.

Bu 2019 yn flwyddyn o lwyddiannau dirifedi i’r triawd o Gaerfyrddin. Dechreuodd y flwyddyn iddynt ar daith o Brydain gyda’r band roc amgen o’r Wyddgrug, The Joy Formidable.

Yna, treuliwyd yr haf yn chwarae gigs mewn gwyliau ledled Prydain, gan gynnwys prif lwyfan Green Man, a chynrychioli Cymru yng ngŵyl arddangos M for Montreal yn Nghanada.

Coronwyd eu blwyddyn arbennig wrth iddynt ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig. Wrth wneud hynny, curodd Adwaith gystadleuaeth gref gan artistiaid sefydledig fel Cate Le Bon, Carwyn Ellis a Lleuwen i ennill y tlws sy’n dathlu albyms Cymreig gorau’r flwyddyn.

Unbeliavable

Yn ddiweddar, es i i gwrdd â Hollie, Heledd a Gwenllian am goffi i gael adlewyrchu ar holl fwrlwm y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae’n unbeliavable.” yw’r dyfarniad.

Ymddengys fod y tair yn dal i syrffio’r don o gyffro o fod wedi cyfansoddi albwm Cymreig gorau’r flwyddyn.“Oedd rhaid i ni brofi’n hunen fel musicians, fel ‘na o’n ni’n teimlo ar y dechre. So, mae cyrraedd y milestone ’ma fel ‘ok, we’re good at what we’re doing!’”

Ond nid yw’r wobr wedi mynd i’w pennau. Yn amlwg, mae parhau i ddatblygu a dysgu yn bwysig iddyn nhw, dydy’r wobr hon ddim wedi newid hynny. Gofynnaf iddynt a ydyn nhw’n gobeithio dilyn ôl troed llwybr cyn-enillwyr fel Boy Azooga. Hollie sy’n ateb,

“Gobeithio ‘ny! Mae’r stwff mae Boy Azooga yn wneud nawr yn amazin’. I weld development fe, mae’n rhoi boost o confidence i ni.”

Ond mae hynny’n golygu gwaith a dyfalbarhad, sut maen nhw’n mynd ati i weithio gyda’r tair ohonynt mewn dinasoedd gwahanol yn gwneud pethau gwahanol.

“Ni’n gorfod bod yn drefnus especially nawr gyda phawb yn spread mas…”

Mae Heledd yn astudio yn Llundain, Hollie yng Nghaerdydd a Gwenllian yn byw yng Nghaerfyrddin.

“Ma fe ddim mor hawdd cwrdd lan a jamo. Felly pan mae amser pryd ni ’da’n gilydd, mae’n rhaid i ni rili gweithio ar be’ ni’n ‘neud. Dim mesan ambyti, let’s get shit done!!”

Disgwyliadau

Ac mae ‘na awydd mawr iddyn nhw “get shit done” hefyd. Gyda’r holl sylw sy’n dod gyda bod yn enillwyr y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, does dim dwywaith amdani, fe fydd yna sylw mawr a disgwyliadau mwy ar yr hyn fydd yn dilyn ‘Melyn’.

Beth maen nhw’n ei feddwl am hynny, holais. Daeth yr ateb am gynnyrch newydd ar ffurf hanner brawddeg gan un yn llifo mewn i hanner brawddeg gan y llall.

“Ie, pressure. Ni just moyn cael e mas, i fod yn onest.”

“Ond mae’n rhaid i ni sgwennu fe’n gynta’!”

“Mae e in the works.”

“Bydd isie i ni gael cwpl o ddiwrnode,”

Away somewhere, a dweud ‘dyma be’ ni angen gwneud’.”

“Dros Nadolig falle, just take a day, two separate days, and write it.

 

Daw’r sgwrs yn ôl i drefn pan ymhelaetha Gwenllian…

“Ni’n gweithio’n well under pressure. So os y’n ni’n dweud mae isie sgwennu album erbyn diwedd Ionawr, then that’s what we’ll do.

“‘Dyn ni ddim moyn rusho fe though. Mae ‘da ni amser a ni’n excited i weld lle ni’n mynd a beth ni’n gallu dod lan â. So, exciting times!”

Felly a fedrwn ni ddisgwyl taith Adwaith eleni i “ffarwelio” â ‘Melyn’?

“Fi’n credu bydde fe’n neis cael mwy o supporting slots i ddechre” ydy’r ymateb cyntaf gan Heledd, cyn i Hollie ychwanegu at hynny.

“Ie, cyn bod ni’n gwneud headlining tour bysen i’n hoffi cael brand new set a spice things up a bit yn lle chware’r un set. ‘Sa i moyn chwarae ‘Lipstick Coch’ ddim mwy! Fi’n lyfo ‘Lipstick Coch’, ond it’s had its time. Mae ‘di bod pedair mlynedd nawr, ni moyn sbeiso fel lan!”

 

“Ffaelu credu…”

Maen nhw wedi cyflawni llwyth yn y pedair blynedd yna, felly dwi’n chwilfrydig i wybod a fydden wedi gallu darogan hyn pan godon nhw eu hofferynnau am y tro cyntaf.

Honestly, fi dal ffaelu credu bo’ ni mewn band!” meddai Gwenllian.

Mae Hollie’n dweud fod yr holl brofiad hyd yma wedi bod yn un profiad swreal ar ôl y llall na fyddai’r un ohonyn nhw wedi ei ddychmygu’n digwydd. Mae’n enwi chwarae prif lwyfan Green Man a gwneud sesiwn i BBC 6Music yn benodol.

It’s all been crazy! Fi ddim yn gwybod siwt ni ddim yn heito’n gilydd!” chwardda gitarydd a phrif lais y grŵp.

“Na, ni jest yn really ddiolchgar.” meddai. “Mae ’na angel Adwaith out there.”

Boed yn ffawd, rhagluniaeth neu angel gwarcheidiol, pa bynnag rym gredwch chi sy’n gyrru llwyddiant Adwaith, i mi mae’n amlwg mai yn nwfn yng nghyfeillgarwch a thalent Heledd, Hollie a Gwenllian gorwedda’r tarddiad.

 

Prif Lun: Adwaith ar ôl derbyn Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2019 (Ffotograffydd: JOE SINGH)