Ffilm ddogfen recordio Arenig

Mae cyfres gerddoriaeth S4C, Lŵp, wedi rhyddhau fideo ddogfen fer yn rhoi sylw i albwm ‘Arenig’ gan Gwilym Bowen Rhys.

Mae’r ffilm yn gip tu ôl i’r llenni wrth i Gwilym Bowen Rhys recordio ei albwm unigol diweddaraf a ryddhawyd yn 2019.

Rhyddhawyd yr albwm  ym mis Mehefin llynedd, ac yn ôl ei arfer bu Gwilym yn gigio’n rheolaidd i hyrwyddo’r casgliad ers hynny, nes y cloi mawr.

Yn y ffilm mae Gwilym yn trafod y broses o recordio’r albwm yn Stiwdio Sain, Llandwrog. Rydym yn clywed hefyd gan y cerddorion sy’n chwarae ar yr albwm sef Marit Fält, Patrick Rimes a Gwen Màiri.

Mae’r ffilm hefyd yn cynnwys sgwrs fer ond ddifyr gan gynhyrchydd yr albwm, Aled Wyn Hughes, sy’n sôn rhywfaint am sut beth ydy gweithio gyda Gwilym yn y stiwdio.