Fideo ‘Blwyddyn Arall’ gan Anya

Un o hoff ganeuon Nadoligaidd Y Selar eleni ydy ‘Blwyddyn Arall’ gan Anya, a bellach mae gyda ni fideo i’w fwynhau ar gyfer y trac hefyd.

Cyhoeddwyd y fideo ar lwyfannau digidol Lŵp ar ddiwrnod Nadolig – anrheg ’Dolig derbyniol iawn.

Anya ydy enw prosiect cyfoes newydd y canwr clasur Huw Ynyr, a fu’n aelod cynnar o’r grŵp Sŵnami cyn troi i ganolbwyntio ar ei yrfa glasurol.

Wedi blwyddyn sydd wedi gweld y gwaith clasurol yn dod i stop, mae Huw wedi troi nôl at gerddoriaeth gyfoes gan ryddhau’r sengl synth-bop fachog sy’n neidio allan o’r llu o senglau Nadolig a ryddhawyd gan artistiaid Cymraeg eleni.

Rhyddhawyd ‘Blwyddyn Arall’ gan label Recordiau Còsh ar 4 Rhagfyr, ond ar ddydd Nadolig  cyhoeddwyd fideo newydd ar gyfer y trac ar lwyfannau digidol Lŵp.

Andy Pritchard sy’n gyfrifol am greu’r fideo gydag Anya.