Fideo Calan gan Lucy Jenkins

Mae’r animeiddiwr talentog (@draw_to_hockey) wedi creu fideo newydd ar gyfer y gân ‘O.G. Greta’ gan Calan.

Mae Lucy wedi creu argraff yn y gorffennol gyda’i fideos ar gyfer y caneuon ‘Tafla’r Dis’ gan Mei Gwynedd a ‘Blithdraphlith’ gan Sibrydion.

Rydan ni’n ffans mawr o waith Lucy yma yn Y Selar, ac unwaith eto mae’r fideo newydd yn arddangos ei thalent hynod.