Fideo ‘Hiraeth Ddaw’ gan Jacob Elwy

Mae’r fideo ar gyfer sengl newydd Jacob Elwy a’r Trŵbz wedi’i gyhoeddi ar-lein wythnos diwethaf.

Rhyddhawyd ‘Hiraeth Ddaw’ ar 26 Mehefin, a hon ydy’r drydedd mewn cyfres o senglau mae Jacob wedi’i ryddhau gyda’r Trŵbz yn ystod 2020. Mae eisoes wedi  rhyddhau ‘Drudwy’ ar ddiwedd mis Ionawr ac ‘Annibyniaeth’ a ryddhawyd ym mis Ebrill.

Mae’r sengl newydd wedi cael ymateb da ac mae’r fideo yn debygol o ehangu ei chyrhaeddiad ymhellach.

Fel popeth arall dros y misoedd diwethaf, mae cyfyngiadau mynd a dod wedi effeithio ar waith cynhyrchu’r fideo, ond dan yr amgylchiadau maent wedi llwyddo i greu fideo digon effeithiol. Mae’r fideo wedi’i greu o ddetholiad o hen glipiau fideo oedd ar ffonau symudol yr aelodau, ynghyd â chlipiau fideo newydd o gartref pawb dros y cyfnod cloi. Morgan Elwy o’r Trŵbz sydd wedi bod yn gyfrifol am y gwaith golygu.

Mae’r sengl ddiweddaraf yn un personol iawn i Jacob Elwy, yn enwedig y dylanwad ar y geiriau.

“Ar ôl colli dad ychydig flynyddoedd yn ôl, ffindiais lyfr bach llawn penillion yr oedd o wedi sgwennu.

“Dyma lle ddoth y geiriau ar gyfer ‘Hiraeth Ddaw’. Cân fywiog ond eitha trist yn ei ystyr, yn cyffwrdd â thrafferthion alcoholiaeth.”

Mae modd gwylio’r fideo ar sianel YouTube label recordiau Bryn Rock…neu cliciwch isod!