Mae fideo ardderchog ar gyfer sengl ddiweddaraf Georgia Ruth, ‘Madryn’ wedi’i gyhoeddi ar sianel YouTube cyfres Lŵp, S4C.
Mae’r fideo wedi’i gynhyrchu gan Efa G. Blosse-Mason, Lila Babington a Sophie Marsh.
Rhyddhawyd ‘Madryn’ ar ddydd Gwener 7 Chwefror a dyma sengl gyntaf ei halbwm newydd, ‘Mai’, sydd allan yn swyddogol ar 20 Mawrth.
‘Mai’ fydd trydydd albwm y gantores werin o Aberystwyth, ac mae’n cael ei ryddhau gan label recordiau Bubblewap Collective.
Mae’r record yn mynd i’r afael â gwreiddiau Georgia. Yn dilyn genedigaeth ei phlentyn cyntaf, symudodd y cerddor a’i theulu’n ôl i’r dre lle’i magwyd hi – Aberystwyth. Dyma gasgliad o ganeuon a sgwennwyd o grombil tŷ, tra bod plentyn bach yn cysgu.
Mae ‘Madryn yn gân sydd wedi’i hysgrifennu’n benodol i’w phlentyn.
“Nesi sgwennu’r gân hon ar gyfer fy mab bach” eglura Georgia wrth drafod ‘Madryn’.
“Daw ei enw canol, Madryn, o Garn Fadryn – y mynydd ym Mhen Llŷn. Oni isie iddo fe wybod fod ganddo fe rywbeth parhaol a chyson, hyd yn oed pan fo pethe’n dymhestlog, rhywbeth y galle fe fod yn sicr ohono.
“Mae ei gariad at y byd naturiol yn gymaint o gysur i mi, ac yn helpu i leddfu’r poenau am yr hyn sy’n digwydd i’n byd ar hyn o bryd. Oni eisiau dathlu’r rhyfeddod sydd mor gynhenid mewn plant bach, a thrio atgoffa fy hunan i beidio “ofni’r pethau tawel”.
Mae fideo ‘Madryn’ yn un animeiddiedig sydd wedi cymryd 180 o oriau i’w greu. Mae fideo byr yn sôn am y broses o greu’r fideo hefyd ar sianel YouTube Lŵp.
Georgia sydd ar glawr rhifyn newydd Y Selar, ac mae cyfweliad Lois Gwenllian gyda hi rhwng cloriau’r cylchgrawn. Copiau caled yn y mannau arferol, neu gallwch ddarllen ar-lein.