Fideo ‘Meddwl am Hi’ gan Papur Wal

Mae Papur Wal wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer eu sengl ddiweddaraf, ‘Meddwl am Hi’.

Rhyddhawyd y sengl newydd gan y triawd ar label Recordiau Libertino ddydd Gwener diwethaf, 7 Chwefror gyda gig lansio yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd y noson honno.

Roedd fideo ar gyfer y trac newydd wedi ymddangos ar gyfryngau Clwb Ifor Bach er mwyn hyrwyddo’r gig, ac ers y penwythnos mae’r fideo allan yn gyhoeddus i’r byd lwyfannau digidol.

Cyfarwyddwyd y fideo newydd gan Billy Bagilhole, oedd hefyd yn gyfrifol am fideo cofiadwy’r grŵp ar gyfer y sengl ‘Yn y Weriniaeth Siec’ llynedd.

Roedd Papur Wal yn perfformio ar lwyfan Gwobrau’r Selar yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth nos Sadwrn (15 Chwefror) a cipiodd y grŵp y wobr am y ‘Record Fer Orau’ am eu EP cyntaf, ‘Lle yn y Byd Mae Hyn?’.

Dyma’r fid: