Mae fideo ar gyfer y gân ‘Cusco’ gan y grŵp Mêl wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau Lŵp, S4C wythnos diwethaf.
‘Cusco’ ydy’r sengl ddiweddaraf i ymddangos gan y grŵp seicadelig o Ddyffryn Conwy, ac fe’i rhyddhawyd ar 30 Hydref.
Mae’r grŵp wedi gweithio gyda’r cyfarwyddwr Andy Pritchard i greu’r fideo newydd sydd wedi’i osod yng nghoedwigoedd llechwraidd cyntefig y band yn Sir Conwy.
Dyma’r fideo: