Mae’r grŵp o Abertawe, Bandicoot, wedi cyhoeddi fideo ar gyfer eu sengl ‘Glaw Ail Law’.
Hon oedd sengl gyntaf y grŵp yn yr iaith Gymraeg, ac fe’i rhyddhawyd ar label Recordiau BICA nôl ym mis Gorffennaf 2019.
Mae’r fideo wedi’i gynhyrchu a chyfarwyddo gan Davie Morgan, neu Dai Does, ac wedi’i ffilmio ar lan y môr ger Abertawe.
Mwynhewch!