Fideo sesiwn a sengl Hyll

Mae cyfres Lŵp, S4C wedi cyhoeddi fideo sesiwn o’r grŵp Hyll yn perfformio’r gân ‘Taliesin’.

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o fideos sesiwn o’r fath gan Lŵp ac mae wedi’i ffilmio yng Nghaerdydd gydag Iwan, prif ganwr y grŵp, yn canu’r trac.

Dros y cyfnod clo mae Hyll wedi bod yn brysur yn recordio demos a fideos ar gyfer eu ffans, yn ogystal â chyfansoddi caneuon newydd.

Mae ‘Taliesin’ yn un o’r caneuon newydd hynny a bydd eu sengl nesaf, ‘Coridor’, hefyd yn cael ei rhyddhau gan Recordiau JigCal ddydd Gwener nesaf, 13 Tachwedd.