Fideo Sesiwn ‘Dim ond Blys’ gan Danielle Lewis

Mae cyfres Lŵp, S4C, wedi cyhoeddi fideo o’r gantores Danielle Lewis yn perfformio ei chân ‘Dim ond Blys’ ar eu sianeli digidol.

Mae’r fideo wedi’i ffilmio yn y Blasus Succulent Emporium yng Nghaerdydd.

Roedd y trac ar yr EP ‘Yn Gymraeg’ a ryddhawyd gan y gantores o Gei Newydd yn 2018.