Mae perfformiad o’r trac ‘Golau’ gan Teddy Hunter wedi ymddangos ar sianel YouTube cyfres Lŵp, S4C.
Mae Teddy Hunter yn gantores sydd wedi’i seilio yng Nghaerdydd, ac sy’n creu celf weledol a chlywedol o fewn cerddoriaeth electronig.
Mae’n defnyddio lŵps breuddwydiol, datblygiadau graddol ac alawon synth i ddatblygu haenau o synnau sy’n plethu â’i llais hynod.
Er efallai’n enw newydd i nifer, mae’n amlwg yn boblogaidd o fewn y sin gerddorol mae’n rhan ohono ac wedi cefnogi enwau mawr fel Public Service Broadcasting, Goat Girl, Ed Dowie, The Low Anthem a Buzzard Buzzar Buzzard.
Yn gynharach yn yr wythnos rhyddhaodd Hunter sengl newydd, ‘Games’, ar label Bubblewrap Collective.
I gyd-fynd â’r newyddion mae cyfres gerddorol Lŵp wedi rhyddhau ei recordiad o fersiwn Gymraeg o’r gân ‘Daylight’, sydd â geiriau Cymraeg wedi’u hysgrifennu gan Ani Glass.