Films gan Sen Segur ar lwyfannau digidol

Mae albwm y grŵp o Ddyffryn Conwy, Sen Segur, wedi’i ryddhau ar y prif lwyfannau digidol am y tro cyntaf wythnos diwethaf.

Rhyddhawyd yr albwm yn wreiddiol yn weddol ddi-ffws yn 2015 gan label Recordiau Cae Gwyn – dim ond yn ddigidol oedd yr albwm ar gael, a hynny ar safle Bandcamp y grŵp yn unig.

Chwalodd y grŵp yn weddol fuan wedyn, ond fe wnaethon nhw ail-ymddangos ar lwyfan yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst fis Awst a chael ymateb ardderchog.